Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dod i rym ar 1 Ebrill 2000, yn diwygio ymhellach Reoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apelau) 1993. Mae Rheoliadau 1993 (fel y'u diwygiwyd) yn gymwys i Gymru a Lloegr. Mae Rheoliadau 1993 yn ymwneud â newid rhestri ardrethu annomestig a luniwyd o dan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 ac maent yn ymdrin â newid y rhestri hynny gan swyddogion prisio; cynigion i newid gan bersonau eraill ac apelau i dribiwnlysoedd prisio lle ceir anghytundeb rhwng cynnig gan swyddog prisio a pherson arall. Mae'r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru'n unig.
Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer —
y cyfnod y ceir gwneud cynigion i newid y rhestri a luniwyd ar 1 Ebrill 1990 ac 1 Ebrill 1995 a'r rhestri a lunnir ar 1 Ebrill 2000 ac ymlaen (rheoliadau 3 i 5) gyda diwygiadau canlyniadol ynglŷn â gwybodaeth sydd i'w chynnwys mewn cynnig (rheoliad 6) a chynigion yr ymdrinnir â hwy fel rhai annilys (rheoliad 7);
yr amser pan fydd newid i restr i gael effaith (rheoliadau 8 a 9) gyda diwygiad canlyniadol ynghylch hysbysebu hereditamentau (rheoliad 10);
cymhwyso'r diwygiadau mewn perthynas â hereditamentau sy'n cael eu cynnwys ar y rhestr ardrethu annomestig ganolog (rheoliad 11);
y dystiolaeth sydd i'w defnyddio gan swyddog prisio mewn achos apêl neu gyfeiriad at gymrodeddu (rheoliad 12); a
cyflwyno hysbysiadau (rheoliad 13).