Awdurdodau praeseptio yw'r rhai hynny sydd yn derbyn cyllid drwy'r dreth gyngor ond sydd ddim yn ei gasglu eu hunain. Mae awdurdod praeseptio yn pennu praesept ar gyfer y swm sydd ei angen i ariannu y rhan hwnnw o'i wariant sydd ddim yn cael ei gyllido gan grantiau llywodraeth ganol, adrethu annomestig wedi'i ail-ddosbarthu ac incwm arall. Mae hwn yn cael ei gasglu drwy'r dreth gyngor gan awdrudodau bilio sef y cynghorau sir a'r cynghorau bwrdeistrefi sirol yng Nghymru. Yng Nghymru, yr awdurdodau heddlu yw'r unig brif awdurdodau praeseptio.
Mae adrannau 32 a 43 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Deddf 1992”) yn nodi yn eu trefn sut mae awdurdod bilio ac awdurdod praeseptio yn eu trefn i gyfrifo'u hanghenion cyllidebol am flwyddyn ariannol ac mae adrannau 33 a 44 o Ddeddf 1992 yn nodi yn eu trefn sut mae'r awdurdodau hyn i gyfrifo swm sylfaenol eu treth gyngor.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau pellach i'r cyfrifiadau sy'n angenrheidiol o dan adran 33 o Ddeddf 1992 fel y maent yn gymwys i'r awdurdodau bilio yng Nghymru. Effaith y Rheoliadau yw dileu'r gofyniad (a ragnodwyd yn adran 33(3C)) y byddai'n ofynnol, pan fyddai cyllideb awdurdod o'r fath yn fwy na swm rhagnodedig, i'r awdurdod gynyddu swm sylfaenol ei dreth gyngor er mwyn cymryd i ystyriaeth ostyngiad dilynol yn y cymhorthdal ar gyfer budd-dâl y dreth gyngor a gâi ei dalu iddo.
Darparodd Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Newid Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 1999 na ddylai'r “police grant” fel y'i diffinnir yn adran 43(6A) o Ddeddf 1992 fod yn gymwys i'r awdurdodau praeseptio pennaf yng Nghymru, gan osod yn ei le ddiffiniad amgen a oedd yn gymwys i adrannau 43 a 44 o Ddeddf 1992. Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau pellach i'r diffiniad amgen drwy amnewid diffiniadau newydd yn adran 43(6C) a (6D). Mae i'r newidiadau hyn effaith ar 29 Chwefror 2000.