(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
O dan baragraff 3(2) o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, caiff yr Ysgrifennydd Gwladol drwy orchymyn ddarparu, yn achos hereditamentau annomestig sydd i'w dangos ar y rhestr ardrethu canolog i Gymru nad yw rheolau arferol prisio ar gyfer ardrethu a gynhwysir ym mharagraffau 2 i 2B o'r Atodlen honno yn gymwys, ac yn lle hynny eu gwerth ardrethol fydd y swm a bennir yn y gorchymyn neu'r hyn a benderfynir yn unol â rheolau a ragnodir. Breinir y pwerau hyn bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae'n ofynnol i hereditamentau nwy a feddiennir (neu, os nas meddiennir, a berchnogir) gan BG plc (sydd wedi disodli British Gas plc at y dibenion hyn) i gael eu dangos ar y rhestr ardrethu canolog a luniwyd ar 1 Ebrill 2000, yn rhinwedd Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 1999. Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu nad yw paragraffau 2 i 2B yn gymwys i'r hereditamentau hynny.
Ar gyfer y flwyddyn sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2000 pennir £32,059,000 fel gwerth ardrethol yr hereditamentau nwy a leolir yng Nghymru. Bydd y gwerth ardrethol hwn yn gymwys hefyd am y blynyddoedd sy'n dilyn.
Mae Erthygl 3(1) yn diddymu Gorchymyn British Gas plc (Gwerthoedd Ardrethol) 1994 o'r 1 Ebrill 2000 ymlaen. Bydd y darpariaethau hyn yn dal i fod yn weithredol i'r dibenion a grybwyllir yn erthygl 3(2).