Mae'r Rheoliadau hyn yn diffinio'r trefniadau ymgymhwyso y cyfeirir atynt yn adran 105 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 ac yn darparu ar gyfer talu grantiau i bersonau sy'n bartïon i drefniadau ymgymhwyso (sef personau a ddiffinnir yn y Rheoliadau fel “deiliaid cyfrif dysgu unigol”).
Ymdrin â threfniadau ymgymhwyso y mae Rheoliadau 2 i 4. Rhaid i'r trefniadau hyn fod ar ffurf cofrestru gan berson cymwys gyda chorff a gymeradwyir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae Rheoliad 3 yn nodi amodau cymhwyster sy'n cynnwys preswylio yng Nghymru (neu preswylio dros dro y tu allan i Gymru Unedig adeg cofrestru ond preswylio'n gyffredin yng Nghymru). Er hynny, o dan amgylchiadau penodol fe fydd trefniadau ymgymhwyso o dan ddarpariaethau cyfatebol a fydd yn gymwys yn Lloegr, Yr Alban neu Ogledd Iwerddon yn drefniadau ymgymhwyso o dan y Rheoliadau hyn.
Yn Rheoliadau 5 i 8 darperir ar gyfer talu grantiau mewn perthynas â deiliaid cyfrif dysgu unigol. Mae Rheoliad 5 yn darparu ar gyfer y p?er i dalu grantiau. Mae Rheoliad 6 yn darparu y gall grantiau gael eu talu mewn perthynas ag unrhyw addysg neu hyfforddiant a bennir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru heblaw addysg uwchradd neu addysg uwch amser-llawn. Yn Rheoliad 7 darperir mai Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy'n penderfynu swm y grant ac mae Rheoliad 8 yn cynnwys amrywiaeth o ddarpariaethau atodol, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer talu'r grant i'r person sy'n darparu'r addysg neu'r hyfforddiant.
Yn Rheoliadau 9 a 10 ceir darpariaethau ar gyfer penderfynu ar breswylfa aelodau'r lluoedd arfog a darpariaethau trosiannol.