(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn parhau i gymhwyso yng Nghymru y dulliau rheoli a osodwyd ym Mhrydain Fawr gan Orchymyn Cadw Mincod 1997 (O.S. 1997/3002), y mae ei effaith yn dod i ben ar 1 Ionawr 2001. Mae Gorchmynion tebyg i barhau i gymhwyso'r dulliau rheoli hyn mewn perthynas â'r Alban a Lloegr yn cael eu paratoi ar ran Gweinidogion yr Alban a'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd.

Mae Erthygl 1 yn darparu teitl y Gorchymyn, ei fod yn gymwys i Gymru, ei fod yn cychwyn ar 1 Ionawr 2001 a bod ei effaith yn dod i ben ar 1 Ionawr 2004. Mae Erthygl 2 yn cynnwys diffiniad o'r Ddeddf y mae'r Gorchymyn yn cael ei wneud odani, a diffiniad o “mincod”. Mae Erthygl 3 yn gwahardd cadw mincod ac eithrio o dan drwydded.

Yn ddarostyngedig i'r eithriadau a wneir gan erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn, mae darpariaethau Deddf Anifeiliaid Dinistriol a Fewnforir 1932 yn parhau i fod yn gymwys yng Nghymru i fincod nes i effaith y Gorchymyn hwn ddod i ben ar 1 Ionawr 2004. Mae'r eithriadau hyn yn ymwneud â'r ddyletswydd sydd ar dirfeddianwyr i roi hysbysiad o bresenoldeb mincod, nad ydynt yn cael eu cadw o dan drwydded, ar eu tir.