Search Legislation

Rheoliadau Gwartheg (Adnabod Anifeiliaid Hŷn) (Cymru) 2000

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2000 Rhif 3339 (Cy. 217 )

ANIFEILIAID, CYMRU

Rheoliadau Gwartheg (Adnabod Anifeiliaid Hŷn) (Cymru) 2000

Wedi'u gwneud

19 Rhagfyr 2000

Yn dod i rym

25 Rhagfyr 2000

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) a enwyd, yn gwneud yn Rheoliadau canlynol:

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau yw Rheoliadau Gwartheg (Adnabod Anifeiliaid Hyn) (Cymru) 2000; maent yn gymwys i Gymru a deuant i rym ar 25 Rhagfyr 2000.

Denhongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn —

  • ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw person a benodwyd yn arolygydd at ddibenion y Rheoliadau hyn gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu gan awdurdod lleol;

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) mewn perthynas â sir neu fwrdeistref sirol yw cyngor y sir neu'r fwrdeistref sirol honno;

  • ystyr “ceidwad” (“keeper”) yw unrhyw berson sy'n gyfrifol am anifeiliaid, yn barhaol neu dros dro, gan gynnwys yn ystod eu cludo neu mewn marchnad ond nid yw'n cynnwys unrhyw berson sy'n geidwad dim ond am ei fod wrthi'n cludo'r anifeiliaid;

  • ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “daliad” (“holding”) yw unrhyw sefydliad, adeiladwaith neu, yn achos fferm awyr agored, unrhyw le y mae gwartheg yn cael eu dal, eu cadw neu eu trafod;

  • ystyr “dull adnabod” (“identityl”) mewn perthynas â gwartheg yw'r tag clust neu'r tatŵ a roddwyd yn unol ag —

    (a)

    Gorchymyn Anifeiliaid Buchol (Cofnodion, Adnabod a Symud) 1995(3),

    (b)

    Gorchymyn Anifeiliaid Buchol (Adnabod, Marcio a Chofnodion Bridio) 1990(4),

    (c)

    Gorchymyn y Darfodedigaeth (Cymru a Lloegr) 1984(5),

    (ch)

    yn achos anifeiliaid yng Nghymru a adnabuwyd yn yr Alban) Gorchymyn y Darfodedigaeth (Yr Alban) 1984(6)), neu

    (d)

    yn achos anifeiliaid a adnabuwyd o dan unrhyw un o'r offerynnau hynny ac a ailadnabuwyd o dan Reoliadau Adnabod Gwartheg 1998(7)) Rheoliadau Adnabod Gwartheg 1998.

  • ystyr “????”gwartheg (“cattle”) yw anifeiliaid buchol gan gynnwys y rhywogaethau bison bison a bubalus bubalis;

  • ystyr “Rheoliad (EC) Rhif 1760/2000” (“Regulation (EC) No, 1760/2000”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1760/2000 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n sefydlu system ar gyfer adnabod a chofrestru anifeiliaid buchol ac ynghylch labelu cig eidion a chynhyrchion cig eidion ac yn diddymu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 820/97(8)).

Yr awdurdod cymwys

3.  Y Cynulliad Cenedlaethol fydd yr awdurdod cymwys y mae'n rhaid cyflwyno adroddiadau iddo yn unol ag ail indentiad Erthygl 7.1 o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000 ynghylch gwartheg y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt.

Y cyfeiriad ar gyfer hysbysu

4.—(1Rhaid i bob hysbysiad i'r Cynulliad Cenedlaethol o dan y Rheoliadau hyn a anfonir drwy'r post gan ddefnyddio cerdyn symud gael ei anfon i'r cyfeiriad sydd wedi'i argraffu ar y cerdyn symud hwnnw.

(2Rhaid i unrhyw hysbysiad arall gael ei anfon I—

  • Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain Curwen Road Workington Cumbria CA14 2DD.

Cofrestru gwartheg a anwyd cyn 1 Gorffennaf 1996

5.—(1Rhaid i unrhyw berson sy'n geidwad gwartheg a anwyd cyn 1 Gorffennaf 1996 ac nad ydynt eisoes wedi'u cofrestru gyda'r Cynulliad Cenedlaethol yn wirfoddol eu cofrestru gyda'r Cynulliad Cenedlaethol erbyn 29 Ionawr 2001.

(2Cofrestrir drwy lenwi ffurflen a gymeradwyir gan y Cynulliad Cenedlaethol at y diben gyda'r wybodaeth ganlynol am bob anifail o'r fath:

(a)ei ddull adnabod;

(b)ei ryw;

(c)ei ddyddiad geni (os nad yw'r union ddyddiad geni yn hysbys, y dyddiad yn fras os yw'n hysbys);

(ch)ei frid;

(d)ei wlad wreiddiol, os yw'n hysbys;

a'i hanfon drwy'r post i Wasanaeth Cofrestru Gwartheg Prydain yn y cyfeiriad yn rheoliad 4.

(3Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi cardiau symud a thystysgrif gofrestru mewn perthynas â phob anifail o'r fath.

(4Rhaid i'r ceidwad gadw'r dystysgrif gofrestru nes iddo werthu'r anifail neu nes i'r anifail farw neu gael ei gigydda. Os yw'n gwerthu'r anifail rhaid rhoi'r dystysgrif gofrestru i'r prynwr. Os yw'r anifail yn marw neu'n cael ei gigydda, rhaid i'r ceidwad adeg ei farwolaeth anfon y dystysgrif gofrestru i'r Cynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliad 9 isod.

Hysbysu lleoliad gwartheg nad ydynt wedi'u cofrestru gyda'r Cynulliad Cenedlaethol o'r blaen

6.—(1Rhaid i geidwad yr holl wartheg y rhoddwyd pasbort iddynt heb gardiau symud ac sydd heb gael cardiau symud oddi wrth y Cynulliad Cenedlaethol wedyn hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn 29 Ionawr 2001, ar ba ddaliad y maent yn cael eu cadw, drwy ddefnyddio ffurflen a gymeradwyir gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(2Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi cardiau symud mewn perthynas â phob anifail a gaiff ei hysbysu yn unol â pharagraff 1 o'r rheoliad hwn.

Symud gwartheg a anwyd cyn 28 Medi 1998

7.—(1Bydd y rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â'r holl wartheg a anwyd cyn 28 Medi 1998 sydd wedi cael cardiau symud oddi wrth y Cynulliad Cenedlaethol.

(2Rhaid i'r hysbysiad ynghylch symud gwartheg y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo (yn unol ag ail indentiad Erthygl 7.1 o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000) gael ei wneud drwy i'r ceidwad —

(a)gosod ar un o'r cardiau symud a roddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â'r anifail label cod bar sy'n dynodi daliad y ceidwad ac a roddwyd at y diben gan y Cynulliad Cenedlaethol (oni bai nad yw'n ymarferol gwneud hynny, ac os felly rhaid i'r person sy'n hysbysu'r symudiad ysgrifennu rhif y daliad, cyfeiriad y daliad ac enw'r ceidwad ar y cerdyn symud);

(b)nodi ar y cerdyn symud ai i ddaliad neu oddi ar ddaliad y mae'r anifail wedi'i symud (neu, yn achos gweithredydd marchnad, nodi ar y cerdyn symud fod yr anifail wedi symud drwy'r farchnad);

(c)nodi dyddiad y symud ar y cerdyn symud;

(ch)ei lofnodi; a

(d)ei bostio i'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn saith diwrnod o'r symud.

(3Os yw anifail y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo yn cael ei drosglwyddo i geidwad newydd, rhaid i'r ceidwad blaenorol roi pob cerdyn symud sydd heb ei ddefnyddio sy'n ymwneud â'r anifail hwnnw i'r ceidwad newydd.

(4Ni chaiff neb symud gwartheg i ddaliad nac oddi ar ddaliad ar neu ar ôl 29 Ionawr 2001 oni bai ei fod yn hysbysu'r symud i'r Cynulliad Cenedlaethol ar gerdyn symud fel y'i pennir ym mharagraff (2) uchod.

Hysbysu symudiadau'n electronig

8.—(1Gall y Cynulliad Cenedlaethol awdurdodi unrhyw berson i hysbysu symudiadau drwy gyfrwng electronig yn hytrach na thrwy'r post.

(2Rhaid i awdurdodiad o dan y rheoliad hwn —

(a)bod yn ysgrifenedig, gall fod yn ddarostyngedig i amodau a gall gael ei ddiwygio, ei atal neu ei ddiddymu drwy hysbysiad ysgrifenedig ar unrhyw adeg; a

(b)pennu ym mha ffurf y mae'r data i gael ei drosglwyddo a'r dull trosglwyddo.

(3Rhaid i hysbysiad drwy gyfrwng electronig gael ei wneud o fewn y cyfnod a bennir ar gyfer hysbysu drwy'r post.

(4Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gadw cofrestr o bersonau a awdurdodir o dan y rheoliad hwn, a honno ar gael i unrhyw berson os gwneir cais.

(5Caiff y Cynulliad Cenedlaethol godi tâl rhesymol am ddarparu gwybodaeth o'r gofrestr a gedwir o dan y rheoliad hwn.

Hysbysu marwolaeth

9.  Yn achos gwartheg a anwyd cyn 1 Gorffennaf 1996, rhaid i'r hysbysiad marwolaeth yn unol ag ail indentiad Erthygl 7.1 o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000 gael ei wneud drwy i'r ceidwad nodi'r farwolaeth a'r daliad y bu'r anifail farw arno ar y dystysgrif gofrestru a roddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer yr anifail hwnnw a'i hanfon i Wasanaeth Symud Gwartheg Prydain o fewn saith diwrnod ar ôl y farwolaeth.

Pwerau Arolygwyr

10.—(1O ddangos dogfen sydd wedi'i dilysu'n briodol ac sy'n dangos ei awdurdod os gofynnir iddo wneud hynny, bydd gan arolygydd hawl i fynd ar unrhyw dir neu safle (heblaw safle domestig nad yw'n cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn) ar unrhyw adeg resymol er mwyn darganfod a yw'r Rheoliadau hyn yn cael eu torri neu wedi cael eu torri; ac yn y rheoliad hwn mae “safle” yn cynnwys unrhyw le, gosodiad, cerbyd, llong, cwch, bad, hofranlong neu awyren.

(2Bydd gan arolygydd bwerau i gyflawni pob gwiriad ac archwiliad sy'n angenrheidiol er mwyn gorfodi Teitl I o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000, ac yn benodol fe gaiff —

(a)casglu, corlannu ac archwilio unrhyw wartheg, a gall ei gwneud yn ofynnol i'r ceidwad drefnu casglu, corlannu a chaethiwo gwartheg;

(b)archwilio unrhyw gofnodion ar ba ffurf bynnag, a chymryd copïau o'r cofnodion hynny;

(c)mynd ag unrhyw ddogfennau a chofnodion sy'n ymwneud â'r materion yr ymdrinnir â hwy yn y Rheoliadau hyn, a'u cadw;

(ch)cael mynd at unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar cysylltiedig sy'n cael eu defnyddio neu sydd wedi'u defnyddio mewn cysylltiad â chofnodion a'u harchwilio a gwirio eu gweithrediad, a gall ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n gofalu am y cyfrifiadur neu'r cyfarpar, neu sydd fel arall yn ymwneud â'u gweithredu, roi unrhyw gymorth iddo y gall yn rhesymol ofyn amdano;

(d)ei gwneud yn ofynnol, pan fydd cofnodion yn cael eu cadw drwy gyfrwng cyfrifiadur, i'r cofnodion hynny gael eu cynhyrchu ar ffurf y gellir mynd â hwy oddi yno; ac

(dd)mynd â chynrychiolydd o'r Comisiwn Ewropeaidd gydag ef sy'n gweithredu at ddibenion Teitl I o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000 neu unrhyw berson arall y mae'n credu bod eu hangen er mwyn gorfodi'r Rheoliadau hyn.

Pwerau i gyfyngu ar symudiadau

11.—(1Os yw'r Rheoliadau hyn yn cael eu torri, yn unol ag ail baragraff Erthygl 22.1 o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000, gall un o swyddogion y Cynulliad Cenedlaethol gyflwyno hysbysiad i geidwad gwartheg y mae'r Rheoliadau hyn yn ymwneud â hwy ac sydd ar ddaliad, yn cyfyngu ar symud y gwartheg i'r daliad neu oddi arno os yw wedi'i fodloni bod angen gwneud hynny er mwyn gorfodi'r ail indentiad o Erthygl 7.1 o'r Rheoliad hwnnw yn iawn.

(2Os yw'r Rheoliadau hyn yn cael eu torri, y Cynulliad Cenedlaethol fydd yr awdurdod milfeddygol a'r awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 1.2 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 494/98 (sy'n pennu rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 820/97 ynghylch defnyddio'r isafswm sancsiynau gweinyddol yn fframwaith y system ar gyfer adnabod a chofrestru anifeiliaid buchol)(9).

Rhwystro

12.—(1Ni chaiff neb —

(a)rhwystro yn fwriadol unrhyw berson sydd wrthi yn gweithredu'r Rheoliadau hyn;

(b)methu, heb esgus rhesymol, â rhoi i unrhyw berson sydd wrthi'n gweithredu'r Rheoliadau hyn unrhyw gymorth neu wybodaeth y gall y person hwnnw ofyn yn rhesymol amdano neu amdani er mwyn cyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn, na methu â chydymffurfio ag unrhyw hysbysiad a gyflwynir iddo o dan y Rheoliadau hyn; neu

(c)rhoi unrhyw wybodaeth y mae'n gwybod ei bod yn ffug neu'n gamarweiniol i unrhyw berson sydd wrthi'n gweithredu'r Rheoliadau hyn;

a bydd unrhyw berson sy'n torri'r rheoliad hwn neu'n methu â chydymffurfio ag ef yn euog o dramgwydd.

(2Rhaid peidio â dehongli dim ym mharagraff (1)(b) uchod fel gofyniad i unrhyw berson ateb unrhyw gwestiwn na rhoi unrhyw wybodaeth a fyddai'n taflu bai arno pe bai'n gwneud hynny.

Tramgwyddau corff corfforaethol

13.—(1Pan fydd corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, a phan brofir bod y tramgwydd hwnnw wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad—

(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i'r corff corfforaethol;

(b)neu unrhyw berson a oedd yn honni gweithredu yn rhinwedd unrhyw swyddogaeth o'r fath;

neu y gellir priodoli'r tramgwydd i unrhyw esgeulustod ar ei ran, bydd ef, neu hi, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd a bydd yn agored i achos a chosb yn unol â hynny.

(2At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “cyfarwyddwr”, mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei fusnes yn cael ei reoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol hwnnw.

Tramgwyddo a Chosbi

14.—(1Bydd person sy'n torri rheoliad 12(1)(a) neu (b) uchod yn euog o dramgwydd ac yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchar am gyfnod na fydd yn fwy na thri mis neu'r ddau.

(2Bydd person sy'n torri unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn yn agored—

(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na'r uchafswm statudol neu i garchar am gyfnod na fydd yn fwy na thri mis neu'r ddau;

(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy neu i garchar am gyfnod heb fod yn fwy na dwy flynedd neu'r ddau.

Gorfodi

15.  Caiff y Rheoliadau hyn eu gorfodi gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r awdurdod lleol.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(10)

D. Elis Thomas

Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

19 Rhagfyr 2000

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn gweithredu darpariaethau Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1760/2000 mewn perthynas â gwartheg hŷn.

Maent yn ei gwneud yn ofynnol i wartheg a anwyd cyn 1 Gorffennaf 1996 (pryd y cafodd y pasbortau gwartheg cyntaf eu rhoi) ac nad ydynt eisoes wedi'u cofrestru gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru yn wirfoddol gael eu cofrestru cyn 29 Ionawr 2001 (rheoliad 5).

Maent yn ei gwneud yn ofynnol bod y rhai sy'n cadw gwartheg yn hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o leoliad gwartheg nad ydynt eisoes wedi'u cofrestru gyda'r Cynulliad Cenedlaethol (rheoliad 6).

Maent yn darparu ar gyfer rhoi cardiau symud i wartheg a anwyd cyn 28 Medi 1998 (pryd y cafodd y pasbortau â chardiau symud eu cyflwyno gyntaf) a hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol pan gaiff yr anifeiliaid hyn eu symud. Darperir hefyd ar gyfer hysbysu symudiadau drwy gyfrwng electronig yn lle hysbysu drwy ddefnyddio cardiau symud, ac ar gyfer cofrestr o'r rhai a gymeradwywyd ar gyfer defnyddio hysbysiadau electronig (rheoliadau 7 ac 8).

Maent yn gwneud darpariaeth ar gyfer hysbysu marwolaeth gwartheg a anwyd cyn 1 Gorffennaf 1996 (rheoliad 9).

Maent yn gwneud darpariaeth ynglŷn â phwerau arolygwyr (rheoliad 10) ac yn darparu y caiff un o swyddogion y Cynulliad Cenedlaethol osod cyfyngiadau ar symud gwartheg y mae'r Rheoliadau'n ymwneud â hwy (rheoliad 11).

Maent yn ei gwneud yn dramgwydd i rwystro arolygwyr (rheoliadau 12 ac 14(1)). Mae methu â chydymffurfio â'r Rheoliadau yn dramgwydd y gellir ei gosbi fel y'i pennir yn rheoliad 14(2). Gwneir darpariaeth benodol yn rheoliad 13 ar gyfer tramgwyddau a gyflawnir gan gyrff corffordeig.

Maent yn cael eu gorfodi gan y Cynulliad Cenedlaethol neu awdurdodau lleol (rheoliad 15).

Mae'r gronfa ddata a'r gofrestr o'r rhai a gymeradwywyd ar gyfer defnyddio post electronig yn cael eu cynnal ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru gan —

  • Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain Curwen Road Workington Cumbria CA14 2DD.

Mae arfarniad rheoleiddiol wedi'i baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 a Rheolau Sefydlog Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Yr Is-adran Polisi Amaethyddiaeth, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(4)

O.S. 1990/1867 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1993/503.

(8)

OJ Rhif L204, 11.8.2000, t.1.

(9)

OJ Rhif L60, 28.2.98, t.78.

(10)

1998 p.38.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources