(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dod i rym ar 1 Ionawr 2001, yn gweithredu Erthyglau 4 a 5 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1259/1999 sy'n sefydlu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol o dan bolisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd (OJ Rhif L160, 26.6.1999, t. 113) (“Rheoliad y Cyngor”).
Maent yn gymwys i Gymru, ac eithrio mewn perthynas à thaliadau o dan gynllun cymorth IACS, pan fyddant yn gymwys dim ond i'r graddau y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn “awdurdod cymwys perthnasol” o fewn ystyr Rheoliadau System Integredig Gweinyddu a Rheoli 1993 (O.S. 1993/1317, fel y'i diwygiwyd olaf gan O.S. 2000/2573).
Mae Erthygl 4 o Reoliad y Cyngor yn caniatáu i'r Aelod-wladwriaethau ostwng symiau'r taliadau o dan y cynlluniau cymorth a restrir yn yr Atodlen i'r Rheoliad hwnnw lle (ymhlith pethau eraill) y mae cyfansymiau'r taliadau a roddir o dan gynlluniau cymorth o'r fath ar gyfer blwyddyn galendr yn fwy na'r terfynau sydd i'w penderfynu gan yr Aelod-wladwriaeth o dan sylw. Yn y Deyrnas Unedig dim yw'r terfyn sydd wedi'i osod, ac mae'r gostyngiad felly'n gymwys i bob taliad o dan y cynlluniau cymorth a bennwyd. Mae'n ofynnol trefnu bod symiau'r gostyngiadau ar y taliadau ar gael fel cymorth Cymunedol ychwanegol ar gyfer unrhyw un o'r mesurau datblygu gwledig a bennir yn Erthygl 5(2) o Reoliad y Cyngor, i'r graddau y maent yn gymwys i'r Aelod-wladwriaeth berthnasol.
Mae'r Rheoliadau hyn felly yn ei gwneud yn ofynnol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, neu, yn òl fel y digwydd, y Bwrdd Ymyrraeth, dynnu cyfran benodedig (2.5% yn y flwyddyn 2001, 3.0% yn y flwyddyn 2002, 3.5% yn y blynyddoedd 2003 a 2004, a 4.5% yn y blynyddoedd 2005 a 2006) o unrhyw daliad y maent yn ei wneud yn unol ag unrhyw un o'r cynlluniau cymorth a enwyd, ac mae'r symiau a dynnir felly i'w defnyddio yn unol à'r Erthygl 5(2) a enwyd (rheoliad 4).
Mae Arfarniad Rheoleiddio wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn ac mae ar gael oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Yr Adran Amaethyddiaeth, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.