Gorchymyn Deddf Dysgu a Medrau 2000 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2000
Enwi, dehongli a chymhwyso1.
–
(1)
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Dysgu a Medrau 2000 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2000.
(2)
Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Dysgu a Medrau 2000.
(3)
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru a daw'r darpariaethau a bennir yn yr Atodlen i rym mewn perthynas â Chymru at bob diben oni nodir yn wahanol.
Darpariaethau sy'n dod i rym2.
Daw darpariaethau'r Ddeddf a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ionawr 2001.
ATODLENDarpariaethau sy'n dod i rym ar 1 Ionawr 2001 mewn perthynas â Chymru
Adran 42.
Adran 43.
Adran 44.
Adran 46.
Adran 48.
Adran 73.
Adran 87.
Adran 93.
Adran 95.
Adran 139.
Adran 141.
Adran 145.
Adran 149 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 9 a bennir isod.
Adran 153 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 11 a bennir isod.
Atodlen 5.
Yn Atodlen 9 –
paragraff 21(b)
paragraff 34,
paragraff 36,
paragraff 44(3) a (4),
paragraff 45,
paragraff 64,
paragraff 70,
paragraff 81,
paragraff 86,
paragraff 92.
Yn Atodlen 11 diddymiadau'r canlynol i'r graddau y maent yn ymwneud â Chymru –
adrannau 18(4) i (6), 60A o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 ac Atodlen 5A iddi,
paragraff 113 o Atodlen 37 i Ddeddf Addysg 1996,
yn adran 19, yn is-adran (1) y gair “or” yn union cyn paragraff (b), yn is-adran (2)(f) y geiriau “employed as a teacher at a school” ac yn is-adran (10) y gair “and” yn union cyn paragraff (c); a'r geiriau “attendance on” yn adran 22(2)(h) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998,
adrannau 125 a 126 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ac Atodlen 27 iddi,
y geiriau o “; and in determining” hyd at ddiwedd adran 104(4) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â darpariaethau penodol o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 i rym ar 1 Ionawr 2001. Rhestrir y darpariaethau hynny, ac esbonnir eu heffeithiau, isod.
Mae adrannau 42, 43 a 44 yn gosod dyletswyddau ar Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant. Mae adran 42 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor roi sylw priodol i hyrwyddo cyfleoedd cyfartal wrth arfer ei swyddogaethau. Mae adrannau 43 a 44 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor wneud cynllun ar gyfer pob un o'i flynyddoedd ariannol a llunio strategaeth mewn perthynas â'i swyddogaethau.
Mae adrannau 46 a 48 yn rhoi pwerau atodol i'r Cyngor sy'n angenrheidiol i ganiatáu iddo gyflawni ei swyddogaethau a sefydlu pwyllgorau.
Mae adran 73 yn ailenwi Prif Arolygydd Ysgolion Ei Mawrhydi yng Nghymru ac Arolygwyr Ysgolion Ei Mawrhydi yng Nghymru. Mae adran 87 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Prif Arolygydd baratoi cynllun blynyddol a'i gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer ei gymeradwyo.
Mae adrannau 93 a 95 yn rhoi pŵ er i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud cynlluniau ar gyfer trosglwyddo i'r Cyngor eiddo, hawliau a rhwymedigaethau (gan gynnwys hawliau cyflogaeth) sy'n gysylltiedig â'r ffaith bod y Cyngor yn ymgymryd â'i swyddogaethau.
Mae adran 139 yn caniatáu i gyfnodau ymsefydlu athrawon ac athrawesau gael eu bwrw mewn sefydliadau addysg bellach o dan rai amgylchiadau.
Mae adran 141 yn rhoi pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol, o dan amgylchiadau penodol, gyfarwyddo cwmnïau y mae wedi contractio gyda hwy mewn perthynas â darparu hyfforddiant i beidio â chymryd camau penodol. Mae'n rhoi pŵ er hefyd i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud rheoliadau sy'n rhagnodi'r mathau o gamau y gellir eu cynnwys mewn cyfarwyddiadau o'r fath.
Mae adran 145 yn ymdrin â rhwymedigaeth sifil llywodraethwyr sefydliadau addysg bellach penodol .
Mae Atodlenni 9 ac 11 yn eu tro yn cynnwys diwygiadau a diddymiadau canlyniadol.
(Nid yw'r Nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Daethpwyd neu deuir â darpariaethau canlynol Deddf Dysgu a Medrau 2000 i rym mewn perthynas â Chymru drwy orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Y ddarpariaeth | Y dyddiad cychwyn | O.S. Rhif |
|---|---|---|
Adrannau 104 i 109 | 3 Awst 2000 | |
Adran 94, ac adran 149 i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraff 87 o Atodlen 9. Yn Atodlen 9, paragraff 87. | 1 Medi 2000 | |
Adrannau 30, 47, 49, 51, ac adran 149 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraffau yn Atodlen 9 a (Cy.163) (Cy.70) restrir isod. Atodlen 4, ac yn Atodlen 9, paragraffau 3, 4 a 93. | 19 Medi 2000 | |
Adrannau 134 i 136, 146 a 149 i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraff 14 o Atodlen 9.Yn Atodlen 9, paragraff 14. | 1 Hydref 2000 | |
Provision | Date of Commencement | S.I. No. |
Sections 104 to 109 | 3 August 2000 | |
Sections 94, and 149 insofar as it relates to paragraph 87 of Schedule 9. In Schedule 9, paragraph 87. | 1 September 2000 | |
Sections 30, 47, 49, 51 and 149 insofar as it relates to the paragraphs of Schedule 9 listed below. (W.163)(C70) Schedule 4, and in Schedule 9 paragraphs 3, 4 and 93. | 19 September 2000 | |
Sections 134 to 136, 146 and 149 in so far as it relates to paragraph 14 of Schedule 9. In Schedule 9, paragraph 14. | 1 October 2000 |