- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â darpariaethau penodol o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 i rym ar 1 Ionawr 2001. Rhestrir y darpariaethau hynny, ac esbonnir eu heffeithiau, isod.
Mae adrannau 42, 43 a 44 yn gosod dyletswyddau ar Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant. Mae adran 42 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor roi sylw priodol i hyrwyddo cyfleoedd cyfartal wrth arfer ei swyddogaethau. Mae adrannau 43 a 44 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor wneud cynllun ar gyfer pob un o'i flynyddoedd ariannol a llunio strategaeth mewn perthynas â'i swyddogaethau.
Mae adrannau 46 a 48 yn rhoi pwerau atodol i'r Cyngor sy'n angenrheidiol i ganiatáu iddo gyflawni ei swyddogaethau a sefydlu pwyllgorau.
Mae adran 73 yn ailenwi Prif Arolygydd Ysgolion Ei Mawrhydi yng Nghymru ac Arolygwyr Ysgolion Ei Mawrhydi yng Nghymru. Mae adran 87 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Prif Arolygydd baratoi cynllun blynyddol a'i gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer ei gymeradwyo.
Mae adrannau 93 a 95 yn rhoi pŵ er i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud cynlluniau ar gyfer trosglwyddo i'r Cyngor eiddo, hawliau a rhwymedigaethau (gan gynnwys hawliau cyflogaeth) sy'n gysylltiedig â'r ffaith bod y Cyngor yn ymgymryd â'i swyddogaethau.
Mae adran 139 yn caniatáu i gyfnodau ymsefydlu athrawon ac athrawesau gael eu bwrw mewn sefydliadau addysg bellach o dan rai amgylchiadau.
Mae adran 141 yn rhoi pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol, o dan amgylchiadau penodol, gyfarwyddo cwmnïau y mae wedi contractio gyda hwy mewn perthynas â darparu hyfforddiant i beidio â chymryd camau penodol. Mae'n rhoi pŵ er hefyd i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud rheoliadau sy'n rhagnodi'r mathau o gamau y gellir eu cynnwys mewn cyfarwyddiadau o'r fath.
Mae adran 145 yn ymdrin â rhwymedigaeth sifil llywodraethwyr sefydliadau addysg bellach penodol .
Mae Atodlenni 9 ac 11 yn eu tro yn cynnwys diwygiadau a diddymiadau canlyniadol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: