(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 (“y prif Reoliadau”), sy'n darparu cynllun ar gyfer taliadau i'w gwneud gan Awdurdodau Iechyd ac Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol, drwy system dalebau, tuag at y costau a dynnwyd gan gategorïau penodol o berson mewn cysylltiad â phrofion golwg a chyflenwi, ailosod a thrwsio teclynnau optegol.

Mae Rheoliad 2 yn diwygio'r diffiniad o “NHS sight test fee” yn rheoliad 1(2) o'r prif Reoliadau i adlewyrchu gwerthoedd y ddwy lefel o ffioedd am brofion golwg y Gwasanaeth Iechyd Gwladol sy'n daladwy i ymarferwyr meddygol offthalmig ac optegwyr pan ddaw'r rheoliadau hyn i rym. Mae'r symiau hyn yn berthnasol i benderfynu cymhwyster i gael taleb at gostau prawf golwg, a phenderfynu ei gwerth adbrynu.