Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu i gyrff penodol yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac awdurdodau lleol penodol wneud trefniadau (“trefniadau partneriaeth”) ynghylch arfer swyddogaethau penodedig.
Mae Rheoliad 3 yn rhagnodi'r cyrff yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'r awdurdodau lleol (“y partneriaid”) sy'n cael gwneud y trefniadau.
Mae Rheoliad 4 yn nodi'r amodau y mae'n rhaid eu bodloni cyn bod y partneriaid yn cael gwneud y trefniadau partneriaeth. Yn Rheoliadau 5 a 6 rhagnodir pa rai o swyddogaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac o swyddogaethau'r awdurdod lleol sy'n gysylltiedig ag iechyd a all fod yn destun trefniadau partneriaeth.
Mae'r Rheoliadau hefyd yn diffinio natur y trefniadau partneriaeth. Maent yn darparu ar gyfer sefydlu cronfa a gaiff eu ffurfio o gyfraniadau gan y partneriaid. Gellir gwneud taliadau o'r gronfa tuag at wariant a dynnir wrth i'r partneriaid arfer eu swyddoaethau'r; er mwyn i gyrff yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol arfer swyddogaethau'r awdurdodau lleol ac i'r awdurdodau lleol arfer swyddogaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Maent yn ei gwneud yn ofynnol hefyd i'r partneriaid nodi telerau'r trefniadau mewn ysgrifen (rheoliadau 7, 8 a 9).
Mae Rheoliad 10 yn gwneud darpariaethau atodol.