Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu dydd i rai o ddarpariaethau penodol Deddf Safonau Gofal 2000 (“y Ddeddf”) ddod i rym. Mae'r Gorchymyn yn gymwys i Gymru.
Mae'r Gorchymyn yn darparu y daw'r darpariaethau canlynol yn Rhan V o'r Ddeddf i rym ar 13 Tachwedd 2000:
adran 72, sy'n sefydlu swydd Comisiynydd Plant Cymru;
Atodlen 2, sy'n gwneud darpariaeth ynghylch rhai o swyddogaethau gweithredol penodol y swydd megis ei statws, penodi iddi a'i thâl, ei phwerau cyffredinol, ei chyfrifon, ei hatebolrwydd a'i hadroddiadau.
Mae'r Gorchymyn yn darparu y daw'r darpariaethau canlynol yn Rhan IV o'r Ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2001 i'r graddau y maent yn ymwneud â Chyngor Gofal Cymru (“y Cyngor”):
adran 54(1), (3)-(7), sy'n sefydlu corff corfforaethol sydd i'w alw'n Gyngor Gofal Cymru; yn darparu ei ddyletswydd gyffredinol; ac yn darparu y bydd, wrth arfer ei swyddogaethau, yn gweithredu yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau, neu o dan unrhyw ganllawiau cyffredinol, a roddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;
adran 55 sy'n gwneud darpariaeth ynghylch dehongli Rhan IV o'r Ddeddf;
adran 113 (2)-(4) sy'n darparu bod gan y Cynulliad bwerau diofyn mewn perthynas â'r Cyngor;
adran 114 sy'n gwneud darpariaeth ynghylch Gorchmynion y Cyfrin Gyngor a wneir o dan adran 70 o'r Ddeddf sy'n trosglwyddo staff o'r Cyngor Canolog Addysg a Hyfforddiant mewn Gwaith Cymdeithasol i'r Cyngor;
Atodlen 1 sy'n gwneud darpariaeth ynghylch rhai o swyddogaethau gweithredol penodol y Cyngor megis ei statws, ei bwerau cyffredinol, ei aelodaeth a phenodi iddo, ei weithdrefnau, ei staff, ei gyfrifon a'i adroddiadau.