(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â'r rhai y mae eu cyflogaeth fel athro neu athrawes, neu fel gweithiwr gyda phlant neu bersonau ifanc, wedi'i gwahardd neu wedi'i chyfyngu o dan adran 218(6) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988. Maent yn gwneud darpariaeth hefyd sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr athrawon ac athrawesau gyflwyno adroddiad ar gamymddygiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae rheoliad 1 yn diddymu rheoliad 10A o Reoliadau Addysg (Athrawon) 1993 a rheoliad 3(4) o Reoliadau Addysg (Athrawon) (Diwygio) 1998.
Mae Rheoliad 3 yn ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu ysgol neu sefydliad addysg bellach, i'r awdurdod addysg lleol ar gyfer yr ysgol honno neu'r sefydliad hwnnw, ac i berchennog ysgol annibynnol, gymryd camau rhesymol ymarferol i atal person y gwaherddir ei gyflogi, neu y cyfyngir ar ei gyflogi, o dan Reoliadau a wneir o dan adran 218(6) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988, ond nad yw mewn cyflogaeth berthnasol, rhag darparu gwasanaethau mewn perthynas â'r ysgol honno neu'r sefydliad hwnnw neu mewn perthynas â'r rhai sy'n eu mynychu, a fyddai'n golygu cyswllt rheolaidd â phlant neu bersonau ifanc.
Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i gyflogydd person sy'n cael ei ddiswyddo o gyflogaeth berthnasol ar sail camymddygiad, neu sy'n ymddiswyddo o dan amgylchiadau y byddai'r cyflogydd wedi'i ddiswyddo o danynt, gyflwyno adroddiad am ffeithiau'r achos a rhoi unrhyw wybodaeth bellach am amgylchiadau'r diswyddo neu'r ymddiswyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.