Gorchymyn Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant (Swyddogaethau Interim) 2000
Enwi, cychwyn a dehongli
1.
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant (Swyddogaethau Interim) 2000 a daw i rym ar 19 Medi 2000.
2.
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Dysgu a Medrau 2000; ac
ystyr “y Cyngor” (“the Council”) yw Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant.
Swyddogaethau Interim y Cyngor
3.
(1)
Hyd nes y daw adrannau 31, 32, 40(1), 40(6) a 41 o'r Ddeddf i rym gall y Cyngor (yn ychwanegol at unrhyw bwerau a roddwyd iddo o dan ddarpariaethau'r Ddeddf sydd mewn grym)—
(a)
gwneud unrhyw beth y mae'n ymddangos ei fod yn angenrheidiol neu'n fanteisiol wrth baratoi i arfer y swyddogaethau a roddir gan unrhyw un o'r adrannau hynny pan ddeuant i rym; a
(b)
mewn cysylltiad â'r pwerau a roddir gan is-baragraff (a), rhoi cymorth ariannol i bersonau sy'n bwriadu darparu gwybodaeth, cyngor neu ganllawiau ynghylch addysg neu hyfforddiant neu faterion cysylltiedig (gan gynnwys cyflogaeth).
(2)
Os bydd y Cyngor yn darparu cymorth ariannol o dan y pŵer a roddir gan baragraff (1)(b) uchod gall osod amodau; a gall yr amodau—
(a)
galluogi'r Cyngor i'w gwneud yn ofynnol ad-dalu (yn gyfan neu'n rhannol) symiau a delir gan y Cyngor os na chydymffurfir ag unrhyw amodau y telir y symiau'n ddarostyngedig iddynt; a
(b)
ei gwneud yn ofynnol talu llog mewn perthynas ag unrhyw gyfnod pryd y mae swm sy'n ddyledus i'r Cyngor heb ei dalu.
Mae paragraff 13 o Atodlen 10 i Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 yn darparu y caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy orchymyn roi pwerau i Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant os yw wedi'i sefydlu cyn iddo gael ei swyddogaethau llawn, i'w gynorthwyo i weithredu ei swyddogaethau llawn pan fydd yn eu cael.
Mae'r Gorchymyn hwn a wneir o dan y pŵer y cyfeirir ato uchod yn rhoi pwer i Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant wneud unrhyw beth sy'n angenrheidiol neu'n briodol wrth baratoi i arfer swyddogaethau o dan adrannau 31, 32, 40(1) a (6) a 41 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 pan fydd yr adrannau hynny yn dod i rym (a disgwylir y bydd hynny ar 1 Ebrill 2001) ynghyd â phŵer cysylltiedig i roi cymorth ariannol.
Y swyddogaethau perthnasol yw prif ddyletswyddau'r Cyngor mewn perthynas ag addysg a hyfforddiant ar gyfer personau 16 i 19 oed a hefyd ar gyfer personau dros 19 oed, pŵer y Cyngor i sicrhau cyfleusterau ar gyfer gwybodaeth, cyngor neu ganllawiau mewn cysylltiad ag addysg neu hyfforddiant a'i ddyletswyddau mewn perthynas â phersonau sydd ag anawsterau dysgu.