Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gweithredu'r darpariaethau ynghylch defaid a geifr yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 92/102/EEC ar adnabod a chofrestru anifeiliaid (OJ Rhif L355, 5.12.92, t.32), yn gwneud darpariaeth ar gyfer cofnodion a dogfennau eraill ynghylch defaid a geifr a marcio defaid a geifr. Maent yn diddymu Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) 1996, O.S. 1996/28 i'r graddau y mae'n gymwys i Gymru.

Hysbysu

Mae'r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n cadw defaid neu eifr hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) (rheoliad 3).

Cofnodion

Mae'r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw un sy'n cadw defaid neu eifr gadw cofnodion ynglŷn â symudiadau ac, yn achos ceidwaid sy'n gynhyrchwyr cig defaid at ddibenion Rheoliad y Cyngor 3493/90/EEC (sy'n gosod rheolau cyffredinol ynghylch rhoi premiwm i gynhyrchwyr cig defaid a chig geifr (O.J. L337, 4.12.90, t.7)) gadw cofnodion ychwanegol yn ymwneud â digwyddiadau penodedig (rheoliadau 4 a 5).

Marcio anifeiliaid

Mae'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth ar gyfer marcio defaid a geifr, naill ai â thag clust neu a thatŵ .Yn ddarostyngedig i eithriadau a darpariaethau trosiannol penodol, o 1 Ionawr 2001 ymlaen, mae'n ofynnol marcio pob anifail a enir neu a symudir gyntaf oddi ar y daliad genedigol ar ôl y dyddiad hwnnw, a'r holl ddefaid a geifr a fewnforir i Gymru o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd (rheoliadau 6 i 8). Mae'r Rheoliadau yn gwahardd dod â defaid neu eifr i Gymru o Aelod-wladwriaeth arall neu o ran arall o'r Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw (“yr Ynysoedd Prydain”) oni bai eu bod wedi'u marcio (rheoliadau 9 ac 10).

Mae'r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol marcio defaid a geifr pan anfonir hwy i gyrchfan y tu allan i Brydain Fawr (rheoliad 11) ac i gyrchfan o fewn Prydain Fawr (rheoliad 12). Maent yn darparu hefyd ar gyfer cario dogfennau pan symudir defaid neu eifr o fewn Prydain Fawr (rheoliad 13). Mae'r Rheoliadau yn darparu ar gyfer tynnu tagiau clust a thatŵ s, a rhoi rhai newydd yn eu lle, rhoi tagiau clust a thatŵ s ychwanegol ac maent yn gwahardd newid tagiau clust a thatŵ s (rheoliadau 14 i 16).

Gorfodi a Thramgwyddau

Mae'r Rheoliadau yn darparu ar gyfer pwerau i arolygwyr (rheoliad 17), tramgwyddau (rheoliad 18) a chosbau (rheoliad 19).

Yr Awdurdodau Lleol sy'n gorfodi'r Rheoliadau ar wahân i reoliad 5, a orfodir gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Diwygiadau

Mae'r Rheoliadau yn diwygio Rheoliadau Premiwm Blynyddol Defaid 1992 i ddarparu ar gyfer adennill premiwm oddi wrth gynhyrchwyr sydd wedi torri rheoliad 5 o'r Rheoliadau hyn.

Arfarniad Rheoleiddio

Mae Arfarniad Rheoleiddio wedi'i baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998. Gellir cael copïau oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Adran Polisi Amaethyddol 3, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.