(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn (sy'n gymwys i Gymru yn unig) yn peri yn rhannol fod y darpariaethau yng Nghyfarwyddebau canlynol y Cyngor ynghylch rheoli clefydau yn effeithiol:
Cyfarwyddeb y Cyngor 72/461/EEC ar broblemau iechyd sy'n effeithio ar y fasnach cig ffres o fewn y Gymuned (OJ Rhif L302, 31.12.72, t. 24 (Rhifyn arbennig 1972 31 Rhag (3) t. 3)), a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad y Cyngor 95/1/EC, Euratom, ECSC (OJ Rhif L1, 1.1.95, t.1);
Cyfarwyddeb y Cyngor 91/494/EEC ar amodau iechyd anifeiliaid sy'n llywodraethu'r fasnach cig dofednod ffres o fewn y Gymuned a mewnforion y cig hwnnw o drydydd gwledydd (OJ Rhif L268, 24.9.91, t. 35), a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 93/121/EC (OJ Rhif L340, 31.12.93, t.39);
Cyfarwyddeb y Cyngor 80/215/EEC ar broblemau iechyd anifeiliaid sy'n effeithio ar y fasnach cynhyrchion cig o fewn y Gymuned (OJ Rhif L47, 21.2.80, t. 4), a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad y Cyngor 95/1/EC, Euratom, ECSC (OJ Rhif L1, 1.1.95, t.1);
Cyfarwyddeb y Cyngor 77/99/EEC ar broblemau iechyd sy'n effeithio ar gynhyrchu a marchnata cynhyrchion cig a rhai cynhyrchion eraill sy'n deillio o anifeiliaid (mae testun y Gyfarwyddeb honno wed'i ddisodli gan y testun a atodwyd i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/5/EEC (OJ Rhif L57, 2.3.92, t.1);
Cyfarwyddeb y Cyngor 94/65/EC sy'n nodi'r gofynion ar gyfer cynhyrchu briwgig a pharatoadau cig a'u gosod ar y farchnad (OJ Rhif L368, 31.12.94, t.10).
Mae'r Rheoliadau'n gwneud y prif ddiwygiadau canlynol –
1. Mae rheoliad 2 yn diwygio Rheoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Archwilio) 1995. Mae'n darparu bod rhaid i'r marc iechyd gael ei dros-stampio pan geir cig o dan amgylchiadau lle y mae cyfyngiadau iechyd anifeiliaid yn gymwys mewn cysylltiad â rhai clefydau penodedig. Ni all cig sydd wedi'i dros-stampio neu nad yw wedi'i gynhyrchu ar wahân i gig sydd wedi'i dros-stampio gael ei fasnachu gyda Gwladwriaethau eraill yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE).
2. Mae rheoliad 3 yn diwygio Rheoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela wedi'i Ffermio a Chig Cwningod (Hylendid ac Archwilio) 1995. Mae'n darparu bod rhaid i'r marc iechyd gael ei dros-stampio pan geir cig dofednod o dan amgylchiadau lle y mae cyfyngiadau iechyd anifeiliaid yn gymwys mewn cysylltiad ag unrhyw glefyd y mae dofednod yn dueddol o'i gael – yn benodol ffliw adar a chlefyd Newcastle. Ni all cig sydd wedi'i dros-stampio neu nad yw wedi'i gynhyrchu ar wahân i gig sydd wedi'i dros-stampio gael ei fasnachu gyda Gwladwriaethau eraill yr AEE. Hefyd, ni all cig o aderyn sydd wedi'i frechu yn erbyn clefyd Newcastle o fewn 30 diwrnod o gael ei ladd gael ei fasnachu gyda Gwladwriaethau eraill yr AEE.
3. Mae rheoliad 4 yn diwygio Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Hylendid) 1994. Mae'n gwahardd defnyddio cig sydd wedi'i dros-stampio mewn cynhyrchion cig sydd i'w masnachu gyda Gwladwriaethau eraill yr AEE, oni bai bod y cynhyrchion cig yn mynd drwy un o'r mathau o driniaeth a bennir yn rheoliad 4(5) (sy'n diwygio Rhan VIII o Atodlen 2 i Rheoliadau 1994). Rhaid i gynhyrchion cig o'r fath gael eu paratoi o dan oruchwyliaeth filfeddygol, a rhaid cael tystysgrif iechyd i gyd-fynd â hwy, a honno'n cadarnhau eu bod wedi'u trin yn unol â'r Rheoliadau. Erbyn hyn, rhaid cael dogfennau masnachol i gyd-fynd â phob cynnyrch cig wrth ei gludo, yn ychwanegol at y gofyniad i gael tystysgrif iechyd o dan amgylchiadau penodedig.
4. Mae rheoliad 5 yn diwygio Rheoliadau Briwgig a Pharatoadau Cig (Hylendid) 1995. Mae'n cyfyngu ar ddefnyddio cig sydd wedi'i dros-stampio mewn briwgig a pharatoadau cig.
5. Mae rheoliad 6 (a wnaed o dan adran 2(2) o Ddeddf Cymunedau Ewrop 1972 (p.68)) yn gwneud nifer o ddiwygiadau canlyniadol i Reoliadau Cynhyrchion sy'n Deillio o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996 (O.S. 1996/3124, fel y'i diwygiwyd eisoes).
Mae'r holl Reoliadau sy'n cael eu diwygio gan y Rheoliadau hyn yn gymwys i Brydain Fawr yn unig. Er hynny, dim ond i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru y mae'r Rheoliadau hyn yn eu diwygio.