Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau y Gellir eu Codi) (Diwygio) (Cymru) 2000

Diwygio'r prif Reoliadau

3.—(1Diwygir y prif Reoliadau yn unol â'r paragraffau canlynol.

(2Yn Rheoliad 2(1), ar ôl y diffiniad o “person dynodedig” rhowch —

  • ystyr “Rheoliadau 1993” yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestrau ac Apelau) 1993; (1)

(3Yn Rheoliad 3(1), yn lle “ac 1 Ebrill 2002”, rhowch —

  • , 1 Ebrill 2002, 1 Ebrill 2003 a 1 Ebrill 2004..

(4Yn Rheoliad 8, ar ôl paragraff (4), rhowch —

(5) Yn y blynyddoedd perthnasol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2003 a 1 Ebrill 2004, cyfrifir y swm y gellir ei godi yn unol â darpariaethau Rhan III o'r Ddeddf..

(5Yn Rheoliad 10, ar ôl paragraff (3), rhowch —

(4) Os yw'r swm a geir drwy gymhwyso'r fformwla a nodir ym mharagraffau (2) a (3) yn llai na'r swm a geid drwy gyfrifo'r swm y gellir ei godi am ddosbarth perthnasol ar gyfer yr hereditament hwnnw yn unol â darpariaethau Rhan III o'r Ddeddf, y swm a gyfrifir yn unol â Rhan III o'r Ddeddf fydd y swm y gellir ei godi am ddiwrnod perthnasol ar gyfer yr hereditament hwnnw.

(5) Yn y blynyddoedd perthnasol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2003 a 1 Ebrill 2004 cyfrifir y swm y gellir ei godi yn unol â darpariaethau Rhan III o'r Ddeddf..

(6Ar ôl Rheoliad 10, rhowch –

10A.  Mae Rheoliad 10B yn gymwys i hereditament diffiniedig os yw'r amod yn Rheoliad 9 wedi'i fodloni ac nad yw adrannau 43(5), 43(6A) neu 45 o'r Ddeddf yn gymwys ar 31 Mawrth 2000.

10B.(1) Os elusen neu ymddiriedolwyr elusen sy'n talu'r ardrethi a bod yr hereditament diffiniedig yn cael ei ddefnyddio yn gyfan gwbl neu yn bennaf at ddibenion elusennol, ceir y swm y gellir ei godi drwy rannu'r swm a gyfrifir yn unol â rheoliad 10 â 5.

(2) Os yw adran 43(6B) o'r Ddeddf (siopau cyffredinol etc. mewn aneddiadau gwledig) yn gymwys mewn perthynas â'r hereditament diffiniedig, ceir y swm y gellir ei godi drwy rannu'r swm a gyfrifir yn unol â rheoliad 10 â 2.

(3) Os yw'r amodau yn adran 45(1) o'r Ddeddf (eiddo nad yw wedi'i feddiannu) wedi'u bodloni mewn perthynas â'r hereditament diffiniedig, ceir y swm y gellir ei godi drwy rannu'r swm a gyfrifir yn unol â rheoliad 10 â 2, neu mewn achos lle mae adran 45(6) (hereditamentau elusennau nad ydynt wedi'i meddiannu) yn gymwys, â 10..

(7Yn Rheoliad 12(2), yn lle “2001” rhowch –“2005”.

(8Ar ôl Rheoliad 12, rhowch —

13.  Pan wneir newid yn y gwerth ardrethol a ddangosir mewn rhestr ar 1 Ebrill 2000, a bod y newid hwnnw yn effeithiol o ddyddiad diweddarach yn unol â darpariaethau Rheoliad 13A(2) o Reoliadau 1993, yna bydd darpariaethau Rheoliad 11(1) yn gymwys. (2)

(1)

Diwygiwyd O.S. 1993/291 gan Reoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestrau ac Apelau) (Diwygio) (Cymru) 2000 (O.S. 2000/792 (Cy.29)).

(2)

Mewnosodwyd Rheoliad 13A gan Reoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestrau ac Apelau) (Diwygio) (Cymru) 2000 (O.S. 2000/792 (Cy.29)).