Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn ymwneud â swyddogaethau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru, corff corfforaethol a sefydlwyd gan Orchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru 1998, a wnaed o dan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, adran 8. Nodau'r Cyngor yw cyfrannu at wella safonau addysgu ac ansawdd dysgu a chynnal a gwella safonau ymddygiad proffesiynol ymysg athrawon ac athrawesau er lles y cyhoedd.

Mae adran 3 o'r Ddeddf yn rhoi i'r Cyngor y swyddogaeth o sefydlu a chadw cofrestr o athrawon ac athrawesau. Mae Rhan II o'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch ffurf a dull cadw'r gofrestr, a materion eraill ynghylch cofrestru. Mae Rhan II hefyd yn rhagnodi amgylchiadau, yn ychwanegol at yr amgylchiadau a nodir yn adran 3 o'r Ddeddf, y mae athrawon ac athrawesau yn gymwys ac yn anghymwys i'w cofrestru odanynt.

Mae Rhan III yn awdurdodi'r Cyngor i gyhoeddi Cod Ymarfer, a'i ddiwygio o dro i dro, sef cod yn nodi safonau ar gyfer ymddygiad ac ymarfer proffesiynol a ddisgwylir oddi wrth athrawon ac athrawesau cofrestredig, ac yn gwneud darpariaeth ynghylch sut mae'r Cyngor i ddarparu copïau o'r Cod.

Mae Rhan IV yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor roi copïau o'r wybodaeth sy'n cael ei chadw amdanynt i athrawon ac athrawesau cofrestredig a phersonau eraill megis athrawon neu athrawesau cymwysedig nad ydynt wedi'u cofrestru ac y mae'r Cyngor yn cadw cofnodion amdanynt yn unol â Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2000. Mae hefyd yn ofynnol i'r Cyngor roi'r wybodaeth a nodir yn Atodlen 2 i gyflogwyr a darpar gyflogwyr athrawon neu athrawesau ac i Gyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban.