Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi swyddogaethau ychwanegol i Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru, corff corfforaethol a sefydlwyd gan Orchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru 1998, a wnaed o dan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, adran 8. O dan Ddeddf 1998 mae swyddogaethau'r Cyngor yn cynnwys sefydlu a chadw cofrestr o athrawon ac athrawesau, cyhoeddi Cod Ymarfer yn nodi'r safonau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol a ddisgwylir oddi wrth athrawon ac athrawesau cofrestredig, arfer pwerau disgyblu mewn perthynas ag athrawon ac athrawesau cofrestredig a phersonau sy'n gwneud cais am gofrestru a rhoi cyngor ynghylch materion addysgu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac eraill.
Y swyddogaethau ychwanegol y mae'r Gorchymyn hwn yn eu rhoi yw cadw cofnodion ar ffurf ysgrifenedig neu electronig mewn perthynas â'r categorïau o bersonau a grybwyllir yn Rhan I o'r Atodlen i'r Gorchymyn. Personau yw'r rhain sy'n:
athrawon neu athrawesau y mae eu henwau wedi'u tynnu oddi ar y gofrestr,
rhai athrawon neu athrawesau sy'n anghymwys i'w cofrestru,
athrawon neu athrawesau a chanddynt statws athro neu athrawes gymwysedig sydd heb gofrestru,
personau sydd wedi ymgymryd â hyfforddiant athrawon ac athrawesau,
rhai athrawon neu athrawesau sydd heb ennill cymhwyster,
athrawon neu athrawesau anghofrestredig sy'n paratoi at y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth,
personau anghofrestredig y mae ganddynt rif cyfeirnod fel athro neu athrawes ac sy'n gweithio neu sydd wedi gweithio yn y gorffennol fel athrawon neu athrawesau.
Nodir yr wybodaeth sydd i'w chynnwys yn y cofnodion yn Rhan II o'r Atodlen ac mae'n debyg i'r wybodaeth sydd i'w chofnodi ar y gofrestr mewn perthynas ag athrawon neu athrawesau cofrestredig.