Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) (Diwygio) (Cymru) 2000
Enwi, cychwyn a chymhwyso1.
(1)
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) (Diwygio) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Medi 2000.
(2)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
(3)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn ysgol sy'n dechrau ar 1 Medi 2000 neu wedyn.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) 19972.
(1)
(2)
Yn rheoliad 2(2), yn lle “£11,466” rhoddir “£11,718”.
(3)
“(a)
£71 where the relevant income does not exceed £10,901; and
(b)
£37 where that income exceeds £10,901 but does not exceed £11,718.”.
(4)
Yn rheoliad 4 —
(a)
ym mharagraff (3), yn lle “£10,683” rhoddir “£10,914”; a
(b)
ym mharagraff (4) –
(i)
yn lle “£10,683” rhoddir “£10,914”, a
(ii)
yn lle “£10,504” rhoddir “£10,735”.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) 1997 (“Rheoliadau 1997”) mewn perthynas â blwyddyn ysgol yn dechrau ar 1 Medi 2000 neu wedyn. Mae Rheoliadau 1997 yn darparu ar gyfer talu grantiau o ran mân dreuliau, ac ar gyfer peidio â chasglu mân dreuliau, mewn perthynas â disgyblion sy'n gymwys i barhau i gael lleoedd a gynorthwyir mewn ysgolion annibynnol yn rhinwedd adran 2 o Ddeddf Addysg (Ysgolion) 1997, er bod y cynllun cymorth lleoedd wedi'i ddileu gan adran 1 o'r Ddeddf honno.
Mae'r Rheoliadau hyn yn llacio'r prawf moddion ariannol (a nodir yn rheoliad 2 o Reoliadau 1997) ac yn cynyddu swm y grant sy'n daladwy ar gyfer grant gwisg ysgol o ran gwariant ar ddillad a dynnwyd mewn perthynas â'r flwyddyn ysgol 2000/2001 a'r blynyddoedd ysgol dilynol.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn llacio'r prawf moddion ariannol (a nodir yn rheoliad 4 o Reoliadau 1997) ar gyfer grantiau teithio ac yn cynyddu swm y grant a delir.