Nodyn Esboniadol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi —
(a)Rheoliad y Cyngor (CE) Rhif 1139/98 (fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (CE) Rhif 49/2000) ynghylch gorfod dangos, ar labelau bwydydd penodol a gynhyrchwyd o organeddau a addaswyd yn enetig, fanylion heblaw'r rhai y darperir ar eu cyfer yng Nghyfarwyddeb 79/112/CEE;
(b)Rheoliad y Comisiwn (CE) Rhif 50/2000 ar labelu bwydydd a chynhwysion bwyd sy'n cynnwys ychwanegion a chyflasynnau a addaswyd yn enetig neu sydd wedi'u cynhyrchu o organeddau a addaswyd yn enetig; ac
(c)y gofynion labelu yn Erthygl 8(1) o Reoliad y Cyngor (CE) Rhif 258/97 ynghylch bwydydd newydd a chynhwysion bwyd newydd (fel y'u darllenir gydag Erthyglau 1 a 2 o'r Rheoliad hwnnw).
Bwydydd a chynhwysion bwyd sydd i'w cyflwyno fel y cyfryw i'r prynwr terfynol yw'r cynhyrchion yr ymdrinnir â hwy gan Reoliad 1139/98, ar ôl iddynt gael eu cynhyrchu'n gyfan gwbl neu'n rhannol o ffa soia a addaswyd yn enetig neu indrawn a addaswyd yn enetig, fel y cyfeirir atynt yn Erthygl 1 o'r Rheoliad hwnnw. Estynnodd Rheoliad 49/2000 gwmpas Rheoliad 1139/98 i gynnwys gwerthiannau i fasarlwywyr a phennodd drothwy isaf o 1% ar gyfer difwyno cynhwysyn yn ddamweiniol â deunydd sy'n deillio o organeddau a addaswyd yn enetig. Mae Rheoliad 50/2000 yn gymwys hefyd yn achos bwyd a chynhwysion bwyd sydd wedi'u bwriadu ar gyfer prynwyr terfynol a masarlwywyr. Mae Rheoliadau 1139/98, fel y'u diwygiwyd, a Rheoliad 50/2000 yn cynnwys darpariaethau trosiannol.
Diben y gofynion labelu yn Rheoliad 258/97 yw sicrhau bod y prynwr terfynol yn cael gwybod –
(a)am unrhyw nodwedd neu briodoledd bwyd sy'n peri bod bwyd newydd neu gynhwysyn bwyd newydd yn peidio â chyfateb mwyach i fwyd neu gynhwysyn bwyd presennol;
(b)am bresenoldeb deunydd yn y bwyd newydd neu'r cynhwysyn bwyd newydd nad yw'n bresennol mewn bwyd cyfatebol presennol ac a all fod ag oblygiadau ar gyfer iechyd rhannau penodol o'r boblogaeth neu achosi pryderon moesegol; ac
(c)am bresenoldeb organedd a addaswyd yn enetig.
Gwnaed Rheoliadau 1139/98, fel y'u diwygiwyd, a 50/2000 yn unol ag Erthygl 4(2) o Gyfarwyddeb y Cyngor 79/112/CEE ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau ynghylch labelu, cyflwyno a hysbysebu bwydydd. Yn unol ag Erthyglau 11 a 13 o'r Gyfarwyddeb honno, mae'r Rheoliadau hyn yn cynnwys —
(a)esemptiad o'r angen i ddodi'r manylion a fynnir gan y Rheoliadau hynny o eiddo'r CE ar y label yn achos mân becynnau a photeli gwydr penodol sydd wedi'u marcio'n annileadwy (rheoliad 3(4)); a
(b)darpariaeth ynglŷn â dull y marcio neu'r labelu yn achos y manylion a fynnir gan y Rheoliadau hynny (rheoliadau 4 i 6).
Yn ychwanegol at Erthygl 12 o'r Gyfarwyddeb honno, mae'r Rheoliadau hyn —
(a)yn caniatáu trefniadau labelu amgen yn lle'r manylion a fynnir gan y Rheoliadau hynny o eiddo'r CE mewn achosion lle bydd safleoedd priodol yn gwerthu i'r prynwr terfynol fwyd sydd wedi'i ragbacio i'w werthu'n uniongyrchol neu sydd heb ei ragbacio (rheoliad 5); a
(b)yn cynnwys trefniadau trosiannol ynglŷn â gwerthu bwyd o'r fath i'r prynwr terfynol neu i fasarlwyydd (rheoliad 13).
Mae'r rheoliadau hyn hefyd —
(a)yn creu tramgwyddau ac yn rhagnodi cosb (rheoliad 7), yn cynnwys esemptiadau (rheoliad 3) ac yn pennu awdurdodau gorfodi (rheoliad 8);
(b)yn darparu amddiffyniad ynglŷn ag allforion, yn unol ag Erthyglau 2 a 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/397/CEE (OJ Rhif L186, 30.6.89, t.23) ar y dull swyddogol o reoli bwydydd, fel y'u darllenir gyda'r nawfed cronicliad i'r Gyfarwyddeb honno (rheoliad 9);
(c)yn ymgorffori darpariaethau penodedig Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (rheoliad 10); ac
(ch)yn gwneud diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth arall ynglŷn â Chymru (rheoliadau 11 a 12).
