(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn peri diwygiadau pellach i Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992 (“y prif Reoliadau”), sy'n rheoleiddio'r telerau y mae Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol yn cael eu darparu odanynt o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977.

Mae Rheoliad 2 yn ychwanegu'r cyffur Finasteride 1mg (Propecia) at y rhestr yn Atodlen 10 i'r prif Reoliadau sy'n rhestru cyffuriau a sylweddau eraill na ellir eu rhoi ar bresgripsiwn i'w cyflenwi yng nghwrs gwasanaethau fferyllol sy'n cael eu darparu o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977.