xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Diben y Rheoliadau hyn (gyda Rheoliadau cysylltiedig ar Esemptiadau ar gyfer Personau Anabl) yw cyflwyno cyfundrefn bathodynnau glas ar gyfer personau anabl o Gymru fydd yn cael eu derbyn ar draws yr Undeb Ewopeaidd yn lle'r un bresennol sy'n seiliedig ar fathodynnau oren.
Mae rheoliadau tebyg yn cael eu gwneud yn y rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn dilyn Argymhelliad a wnaed ym 1998 gan Gyngor yr Undeb Ewropeaidd.
Yn rheoliad 2 pennir ystyron termau a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn.
Mae Rheoliad 3 yn dirwyn i ben effaith y rheoliadau blaenorol (Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) 1982) yng Nghymru, heblaw am agweddau trosiannol a ddisgrifir yn y Rheoliad hwn.
Mae Rheoliad 4 yn rhagnodi'r personau hynny y gellir rhoddi bathodyn iddynt, a rheoliad 5 yn rhoi'r hawl i awdurdod lleol hefyd i roi bathodyn i sefydliad.
Rheoliad 6 sy'n pennu'r ffi uchaf y caiff awdurdod lleol ei mynnu (£2.00) ac mae rheoliad 7 yn delio â rhoi bathodyn yn lle un a gollwyd ayb.
Rheoliad 8 sy'n dweud pryd caiff awdurdod lleol roi hysbysiad yn gwrthod rhoi bathodyn a rheoliad 9 pryd y caiff roi hysbysiad yn mynnu bathodyn yn ôl.
Bydd gan unigolyn neu sefydliad hawl i wneud apêl yn erbyn hysbysiad o'r fath i'r Cynulliad Cenedlaethol. Rhoddir y drefn ar gyfer gwneud hynny yn rheoliad 10.
Rheoliad 11 sy'n rhagnodi ffurf y bathodyn drwy gyfeirio at Atodlen a rheoliad 12 sut y mae'n rhaid ei arddangos.
Yn rheoliadau 13 i 16 disgrifir yr amgylchiadau pryd y ceir arddangos bathodyn.
Bwriedir gwneud rheoliadau pellach fydd yn pennu'r drefn ar gyfer cynnal apeliadau o dan reoliad 10 i'r Cynulliad Cenedlaethol, yn dilyn ymgynghori priodol.