Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynhyrchion Llaeth (Hylendid) (Taliadau) 1995, fel y'u diwygiwyd, (“Rheoliadau 1995”) mewn perthynas â Chymru.
Mae taliadau i'w talu gan gynhyrchwyr llaeth ar ddaliadau cofrestredig o dan Reoliadau 1995 mewn perthynas ag ymweliadau â ffermydd llaeth a gynhelir er mwyn darganfod a yw darpariaethau Rheoliadau Cynhyrchion Llaeth (Hylendid) (Taliadau) 1995, (O.S. 1995/1086, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/1763, 1996/1499, 1996/1699, 1997/1729, 1998/2424 a 2000/656) yn cael eu bodloni. Mae'r Rheoliadau hyn yn dileu'r atebolrwydd i dalu taliadau o'r fath, ac eithrio mewn perthynas ag ymweliadau at ddiben cymryd samplau o laeth yfed sydd yn laeth amrwd buchod i'w ddadansoddi a'i archwilio er mwyn gweld a yw'n cydymffurfio â'r darpariaethau yn y Rheoliadau hynny ynghylch meini prawf microbiolegol. Mae'r tâl yn yr achos hwnnw yn aros yn ddigyfnewid, sef £63 (rheoliadau 2 i 5).
Mae arfarniad rheoleiddiol yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 wedi'i baratoi. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd - Cymru, Llawr Cyntaf, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EN .