xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2000 Rhif 1738 (Cy.121)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Cynhyrchion Llaeth (Hylendid) (Taliadau) (Diwygio) (Cymru) 2000

Wedi'u gwneud

19 Mai 2000

Yn dod i rym

20 Mai 2000

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 45 a 48(1)(b) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1), wedi rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ac wedi ymgynghori yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

(1)

1990 p.16. Diwygiwyd adran 48 gan baragraff 21 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p.28). Trosglwyddwyd swyddogaethau a frieniwyd yng Ngweinidogion y Goron mewn perthynas รข Chymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).