(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r ffurflen sydd i'w defnyddio gan berchen-feddianwyr a thenantiaid wrth wneud cais am grantiau adnewyddu tai o dan Bennod I o Ran I o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 i'w gweld yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig)1996.
Gwelir y ffurflen Gymraeg gyfatebol yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Cymraeg) 1998.
Gwnaeth Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Cymru) 2000 ddiwygiadau i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996 a oedd yn ganlyniadol i newidiadau i Reoliadau Budd-dâl Tai (Cyffredinol) 1987 y seilir y prawf moddion ar gyfer penderfynu swm y grant arnynt.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i'r ffurflenni cais sy'n ganlyniadol i'r diwygiadau a wnaed i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996.