(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Effaith y Rheoliadau hyn yw diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Dewis Ymarferydd Meddygol) Diwygio 1998 (“y prif Reoliadau”) sy'n ymwneud â hawl personau i ddewis y meddyg y maent yn dymuno cael gwasanaethau meddygol sylfaenol ganddo.

Mae'r Rheoliadau yn peri bod y diwygiadau testunol i'r prif Reoliadau sydd wedi'u gwneud gan Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Dewis Ymarferydd Meddygol) Diwygio 1999 (“Rheoliadau 1999”) ac sy'n gymwys yn Lloegr, yn effeithiol yng Nghymru.

Mae Rheoliadau 1999 yn diwygio rheoliad 4 o'r prif Reoliadau (dyrannu personau i feddygon) drwy ddiwygio'r darpariaethau ar gyfer Awdurdod Iechyd sy'n dyrannu claf i feddyg er mwyn i Awdurdod Iechyd gael rhoi ystyriaeth i gleifion sydd wedi bod yn dreisgar tuag at eu meddyg yn y gorffennol, er mwyn dewis meddyg gyda'r cyfleusterau mwyaf priodol.

Mae Rheoliadau 1999 yn gwneud diwygiadau tebyg hefyd i Reoliad 5 o'r prif Reoliadau, sy'n ymwneud â dyrannu claf i feddyg gan “pilot scheme provider” (darparydd cynllun peilot).