xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Effaith y Rheoliadau hyn yw diwygio ymhellach ar Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992 (“y prif Reoliadau”), sy'n rheoleiddio'r telerau y bydd meddygon yn darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol odanynt o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (“Deddf 1977”).
Mae'r Rheoliadau yn peri bod y diwygiadau testunol i'r prif reoliadau sydd wedi'u gwneud gan Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) Diwygio 2000 (“Rheoliadau 2000”) ac sy'n gymwys yn Lloegr, yn effeithiol yng Nghymru.
Mae rheoliad 2 o Reoliadau 2000 yn ei gwneud yn ofynnol bod Awdurdod Iechyd yn tynnu enw unrhyw feddyg a gollfernir o lofruddio neu a gollfernir o dramgwydd troseddol a'i garcharu i chwe mis o garchar o leiaf oddi ar ei restr feddygol (a hynny drwy ddiwygio rheoliad 7 o'r prif Reoliadau (tynnu oddi ar y rhestr feddygol)).
Mae Rheoliad 5 o Reoliadau 2000 hefyd yn gosod gofyniad ar feddyg sy'n gwneud cais i Awdurdod Iechyd am gael ei enwebu neu ei gymeradwyo ar gyfer swydd wag mewn practis wneud datganiad a yw wedi'i gollfarnu o unrhyw dramgwydd troseddol, wedi'i rwymo neu wedi'i rybuddio, neu yn destun achos troseddol ar y pryd, ac a yw, neu a yw wedi bod, yn destun achos disgyblu gan ei gorff proffesiynol neu gorff rheoleiddio, boed yn y DU neu mewn man arall (a hynny drwy fewnosod paragraff 6A ym mharagraff 6 o Ran III o Atodlen 3 i'r prif Reoliadau (yr wybodaeth a'r ymrwymiadau sydd i'w rhoi gan ymarferydd mewn cysylltiad â chais am gael ei enwebu neu ei gymeradwyo ar gyfer swydd wag mewn practis)).
Mae rheoliad 3 o Reoliadau 2000 yn darparu bod rhaid i Awdurdod Iechyd beidio â chymeradwyo meddyg os ydynt o'r farn ei fod yn anaddas ar ôl ystyried y datganiad (a hynny drwy fewnosod paragraff (1)(bb) yn rheoliad 18E o'r prif Reoliadau (meini prawf cymeradwyo ac enwebu)).
Mae rheoliad 4 o Reoliadau 2000 yn darparu bod rhaid i fanylion y datganiad hwn gael eu cynnwys yn yr wybodaeth a roddir gan Awdurdod Iechyd wrth roi tystlythyr i'r Pwyllgor Practisiau Meddygol (a hynny drwy ddiwygio paragraff 8 o Ran I o Atodlen 3 i'r prif Reoliadau (yr wybodaeth sydd i'w chynnwys mewn adroddiad gan yr Awdurdod Iechyd wrth roi tystlythyr i'r Pwyllgor Practisiau Meddygol)).