(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diddymu ac yn disodli rheoliad 10 o Reoliadau Addysg (Ysgolion ac Addysg Bellach) 1981 mewn perthynas â Chymru yn unig.

Mae Rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch hyd y diwrnod ysgol a'r flwyddyn ysgol.

Mae Rheoliad 4 yn darparu na cheir trin mwy na chwe sesiwn ysgol a neilltuwyd ar gyfer hyfforddi athrawon mewn gwerthuso athrawon ysgol, system dâl athrawon ysgol neu strwythurau staffio ysgol yn ystod y cyfnod 1 Mai 2000 i 31 Gorffennaf 2001 fel sesiynau pan gyfarfu'r ysgol. Pan neilltuir mwy na phedair sesiwn ysgol i hyfforddiant o'r fath yn ystod y cyfnod hwnnw rhaid i o leiaf ddwy fod yn y flwyddyn ysgol 2000-2001.