(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae Rhan 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol ac awdurdodau eraill i gynnal adolygiadau gwerth gorau o'u swyddogaethau ac i baratoi cynllun perfformiad gwerth gorau ar gyfer pob blwyddyn ariannol.
Bwriedir pennu drwy orchymyn a wneir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru y cyfnod y mae'n rhaid i awdurdod yng Nghymru (ac eithrio un a bennir yn adran 1(1)(d) ac (e) o'r Ddeddf) adolygu pob un o'i swyddogaethau ynddo, y materion y mae'n rhaid i'r awdurdod hwnnw eu cynnwys yn yr adolygiad a'r materion y mae rhaid i'r awdurdod hwnnw eu cynnwys mewn cynllun perfformiad gwerth gorau ar gyfer blwyddyn ariannol. Gall Cynullaid Cenedlaethol Cymru hefyd bennu drwy orchymyn cyn pa ddyddiad y mae rhaid i awdurdod gyhoeddi ei gynllun perfformiad ar gyfer blwyddyn ariannol a'r dyddiad erbyn pryd y mae rhaid anfon copïau o adroddiad archwilydd ynglŷn â'r cynllun hwnnw at yr awdurdod, y Comisiwn Archwilio ac, os oes gofyn, at Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu'r cyfnod adolygu gwerth gorau, y materion y mae'n rhaid eu cynnwys mewn adolygiad o'r fath, y materion y mae'n rhaid eu cynnwys mewn cynllun perfformiad gwerth gorau, cyn pa ddyddiad y mae rhaid cyhoeddi cynllun awdurdod ar gyfer blwyddyn ariannol a'r dyddiad erbyn pryd y dylai copïau o adroddiad archwilydd gael eu hanfon.