2000 Rhif 1169 (Cy. 94 )
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Darpariaethau Malltod) (Cymru) 2000
Wedi'i wneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladaol gan adrannau 149(3)(a) a 333(7) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 19901 ac adrannau 143 a 147 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 19882, ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru3 a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw –
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Darpariaethau Malltod) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 12 Ebrill 2000.
2
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru'n unig.
Terfyn y gwerth blynyddol2
£24,600 yw'r swm a ragnodir ar gyfer dibenion adran 149(3)(a) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.
Diddymu3
Diddymir drwy hyn Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Darpariaethau Malltod) 19904 i'r graddau y mae'n gymwys i Gymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19985.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)