xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2000 Rhif 1036 (Cy. 67)

TAI, CYMRU MEWNFUDO, CYMRU

Gorchymyn Personau sy'n Ddarostyngedig i Reolaeth Fewnfudo (Llety Awdurdodau Tai) (Cymru) 2000

Wedi'i wneud

30 Mawrth 2000

Yn dod i rym

1 Ebrill 2000

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 118 a 166(3) o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999(1) ac a freiniwyd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru(2).

(1)

1999 p. 33. Mae adrannau 118 a 119 yn ail-ddeddfu, gyda newidiadau, adran 9 o Ddeddf Lloches a Mewnfudo 1996 (p. 49) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Tai 1996 (p.52), Atodlen 16, paragraff 3 ac Atodlen 19, Rhannau VII ac VIII.

(2)

Mewn perthynas ag adran 9 o Ddeddf Lloches a Mewnfudo 1996, gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac adran 17 o Ddeddf Dehongli 1978 (p.30).