(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Swyddogaethau Awdurdodau Iechyd a Threfniadau Gweinyddu) 1996 drwy ddarparu i awdurdodau iechyd yng Nghymru arfer swyddogaeth y Cynulliad Cenedlaethol o ddarparu cyfleusterau ysbyty yn unol ag adran 4 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977. Mae'r gwasanaethau perthnasol mewn perthynas รข phersonau y gellir eu cadw o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 ac yr ydys o'r farn eu bod angen triniaeth o dan amodau o ddiogelwch mawr oherwydd eu tueddiadau peryglus, treisgar neu droseddol.
Cyfyngir ar arfer y swyddogaeth o ddarparu gwasanaethau seiciatrig o ddiogelwch mawr gan y Rheoliadau hyn i gontractau NHS gydag Awdurdod Ysbyty Ashworth, Broadmoor neu Rampton neu ymddiriedolaeth NHS yng Nghymru a gymeradwywyd gan y Cynulliad Cenedlaethol, neu yn Lloegr a gymeradwywyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol.