Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi, ar gyfer Cymru, ddangosyddion perfformiad y cyfeirir atynt er mwyn mesur perfformiad y cynghorau sir, y cynghorau bwrdeistref sirol ac awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol (fel awdurdodau gwerth gorau), wrth iddynt arfer eu swyddogaethau, o 1 Ebrill 2000 ymlaen.
Gwneir y Gorchymyn yn unol ag adrannau 4(1)(a) a (2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999. Mae adran 4(3) o'r Ddeddf honno yn gosod rhwymedigaeth ar y Cynulliad Cenedlaethol i ymgynghori, cyn gwneud Gorchymyn o'r math hwn, â phersonau y mae'n ymddangos eu bod yn cynrychioli'r awdurdodau gwerth gorau o dan sylw ac unrhyw bersonau eraill (os oes rhai) y gwêl yn dda. Mae'r gofyniad hwn i ymgynghori wedi'i fodloni cyn i'r Gorchymyn hwn gael ei wneud.
Mae Erthygl 2 yn diffinio pa awdurdodau gwerth gorau y bydd yn rhaid mesur eu perfformiad, mewn perthynas â swyddogaethau penodol, drwy gyfeirio at y dangosyddion perfformiad penodedig a bennir yn Erthygl 3.
Drwy gyfeirio at yr Atodlenni, mae Erthygl 3 yn rhagnodi pa ddangosyddion perfformiad a gaiff eu defnyddio i fesur pa swyddogaethau ar gyfer y gwahanol awdurdodau gwerth gorau.
Mae Atodlenni 1 i 8 yn manylu ar y dangosyddion rhagnodedig ar gyfer y gwahanol swyddogaethau fel a ganlyn:
Atodlen 1 – Pob Swyddogaeth
Atodlen 2 – Addysg
Atodlen 3 – Gwasanaethau Cymdeithasol
Atodlen 4 – Tai
Atodlen 5 – Gwasanaethau'r Amgylchedd
Atodlen 6 – Trafnidiaeth
Atodlen 7 – Cynllunio Gwlad a Thref
Atodlen 8 – Gwasanaethau Diwylliannol a
Gwasanaethau Cysylltiedig.