(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â darpariaethau pellach Deddf Iechyd 1999 i rym mewn perthynas â Chymru.
Mae'r Gorchymyn yn darparu ar gyfer cychwyn y darpariaethau sydd —
a.
yn dileu'r cronfeydd a ddelir gan YC (adran 1);
b.
yn caniatáu ar gyfer diwygio'r gynrychiolaeth ar Bwyllgorau Deintyddol a Meddygol Lleol; ac
c.
yn gwneud diwygiadau manwl i ddeddfwriaeth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol o ganlyniad i'r uchod, er mwyn cymryd i ystyriaeth bellach y diwygiadau i'r darpariaethau ynghylch sefydlu Ymddiriedolaethau NHS ac i'r pwerau ar gyfer gwneud cyfarwyddiadau a gychwynnwyd gan Orchymyn Deddf Iechyd 1999 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 1999 ac mewn perthynas â thalu am nwyddau a gwasanaethau penodol a gyflawnir heblaw o dan gontract NHS.