Rheoliadau Treth Gyngor (Atebolrwydd Perchnogion i Dalu) (Diwygio) (Cymru) 2000
Enwi, cychwyn a chymhwyso1.
(1)
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Treth Gyngor (Atebolrwydd Perchnogion i Dalu) (Diwygio) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 3 Ebrill 2000.
(2)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru'n unig.
Atebolrwydd Perchnogion i Dalu – ceiswyr lloches2.
Mae Rheoliadau Treth Gyngor (Atebolrwydd Perchnogion i Dalu) 1992 yn rhagnodi dosbarthiadau o anheddau y mae'r perchennog, yn hytrach na'r preswylydd, yn atebol i dalu treth gyngor ar eu cyfer.
O 3 Ebrill 2000 ymlaen bydd ceiswyr lloches, yng Nghymru, sy'n ddiymgeledd i bob golwg, yn cael llety ac angenrheidiau byw hanfodol eraill o dan adran 95 o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999, ac ni fyddant yn gymwys i gael budd-daliadau gan gynnwys budd-dâl treth gyngor.
Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu mai perchennog y llety, yn hytrach na'r ceisydd lloches sy'n preswylio yno, fydd yn atebol i dalu treth gyngor ar gyfer unrhyw lety sy'n cael ei ddarparu o dan adran 95 gan ychwanegu dosbarth newydd o anheddau at y dosbarthiadau sydd wedi'u rhagnodi gan Reoliadau 1992.