Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynglŷn ag arfer yng Nghymru swyddogaethau'r Comisiwn Gwella Iechyd a sefydlir o dan adran 19 o Ddeddf Iechyd 1999.
Rhoddir ei swyddogaethau craidd i'r Comisiwn gan adran 20 o Ddeddf Iechyd 1999 sy'n darparu bod y Comisiwn —
yn darparu cyngor a gwybodaeth am drefniadau ar gyfer monitro a gwella'r gofal iechyd a ddarperir gan Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol (lle sefydlir hwy), gan gynnwys trefniadau llywodraethu clinigol;
yn cynnal adolygiadau ar weithrediad a digonolrwydd y trefniadau hynny;
yn ymchwilio, cynghori ac adrodd ar faterion penodol ynglŷn a chyflwyno a rheoli'r gofal iechyd a ddarperir gan gyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol;
yn cynnal adolygiadau cenedlaethol ar fathau penodol o ofal iechyd a ddarperir gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Mae Adran 20(1)(e) o Ddeddf Iechyd 1999 yn darparu i swyddogaethau ychwanegol gael eu rhoi drwy gyfrwng rheoliadau. Mae'r pŵer i wneud rheoliadau o'r fath yn arferadwy gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd ac mae wedi'i arfer drwy ychwanegu'r swyddogaethau ychwanegol canlynol fel y'u nodir yn rheoliad 2 o Reoliadau'r Comisiwn Gwella Iechyd (Swyddogaethau) 2000 sy'n darllen fel a ganlyn —
“2.The following functions are prescribed pursuant to section 20(1)(e) —
(a)the function of providing advice or information with respect to the arrangements by Health Authorities, Special Health Authorities or service providers for the purpose of monitoring and improving the quality of health care for which they have responsibility;
(b)the function of providing advice or information with respect to the arrangements by Primary Care Trusts for the purpose of monitoring and improving the quality of health care provided by their relevant service providers;
(c)the function of conducting reviews of, and making reports on, arrangements by Health Authorities, or Special Health Authorities to which the duty in section 18 of the Act has been extended11, for the purpose of monitoring and improving the quality of health care for which they have responsibility;(d)the function of conducting reviews of, and making reports on, arrangements by Primary Care Trusts for the purpose of monitoring and improving the quality of health care provided by their relevant service providers;
(e)the function of carrying out investigations into, and making reports on, the management, provision or quality of health care for which Special Health Authorities have responsibility;
(f)the function of providing advice with respect to the establishment and conduct of health service inquiries.”
Ceir croesgyfeiriadau at reoliad 2 yn Rheoliadau'r Comisiwn Gwella Iechyd (Swyddogaethau) (Cymru) 2000.
Mae'r rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer paratoi rhaglen waith flynyddol y Comisiwn (rheoliad 2), i'r Comisiwn ddarparu cyngor neu wybodaeth ynglŷn a threfniadau llywodraethu clinigol i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyrff y gwasanaeth iechyd ac eraill (rheoliadau 3 a 4), cynnal adolygiadau lleol ar y trefniadau hynny, a'r adroddiadau a'r camau sydd i'w cymryd yn sgil yr adolygiadau hynny (rheoliadau 5 i 8), adroddiadau yn dilyn adolygiadau gwasanaeth cenedlaethol o fathau penodol o ofal iechyd (rheoliad 9) a chynnal ymchwiliadau i reolaeth, darpariaeth neu ansawdd y gofal iechyd y mae cyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn gyfrifol amdanynt a'r adroddiadau ynglŷn â'r ymchwiliadau hynny (rheoliadau 10 i 15).
Mae Rheoliadau 16 i 19 yn gwneud darpariaeth i'r Comisiwn a phersonau a awdurdodir ganddo fynd ar dir ac adeiladau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol i gael gafael ar ddogfennau, gwybodaeth ac esboniadau.
Mae Rheoliad 20 yn atal y Comisiwn rhag rhoi cymorth i'r Comisiwn Archwilio wrth arfer rhai o'i swyddogaethau, heb gydsyniad y Cynulliad Cenedlaethol. Mae Rheoliad 21 yn gwneud darpariaeth ynglŷn a rôl y Comisiwn wrth roi cymorth mewn perthynas ag ymchwiliadau'r gwasanaeth iechyd.