ATODLEN 2DIWYGIADAU I'R FFURFLEN SY'N DWYN Y TEITL “CEISIADAU PERCHEN-FEDDIANNYDD A THENANT AM GRANTIAU ADNEWYDDU TAI”
5
Yng nghwestiwn 3.38 —
a
yn lle'r is-baragraff sy'n dechrau gyda'r geiriau “Mae'r gofal yn cael ei ddarparu y tu allan i oriau ysgol”, rhodder —
Mae'r gofal yn cael ei ddarparu y tu allan i oriau ysgol gan ysgol ar safle ysgol neu gan awdurdod lleol, ac mae'r tâl ar gyfer cyfnod sy'n cychwyn ar wythfed penblwydd y plentyn ac yn gorffen mewn achos plentyn nad yw'n anabl ar y dydd cyn y dydd Llun cyntaf ym Medi, yn dilyn penblwydd y plentyn yn 15 oed;
b
ar ôl yr is-baragraff hwnnw, mewnosoder —
Mae'r gofal yn cael ei ddarparu y tu allan i oriau ysgol gan ysgol ar safle'r ysgol neu gan awdurdod lleol, ac mae'r tâl ar gyfer cyfnod sy'n cychwyn ar wythfed penblwydd y plentyn ac yn gorffen mewn achos plentyn sy'n anabl ar y dydd cyn y dydd Llun cyntaf ym Medi, yn dilyn penblwydd y plentyn yn 16 oed;