ATODLEN 2DIWYGIADAU I'R FFURFLEN SY'N DWYN Y TEITL “CEISIADAU PERCHEN-FEDDIANNYDD A THENANT AM GRANTIAU ADNEWYDDU TAI”

4.

Yn lle cwestiwn 3.37, rhodder —

“3.37

Ydych chi'n talu, neu ydych chi wedi talu yn ystod y 12 mis diwethaf, am ofal unrhyw blentyn a enwir yng nghwestiwn 3.15 nad yw'n anabl ac sydd naill ai o dan 15 oed neu sydd (neu oedd) heb gyrraedd y dydd Llun cyntaf ym Medi yn dilyn ei ben-blwydd yn 15 oed?

Nodiadau 93 a 93A

Ydw

Nac ydw

3.37A

Ydych chi'n talu, neu ydych chi wedi talu yn ystod y 12 mis diwethaf, am ofal unrhyw blentyn a enwir yng nghwestiwn 3.15 sy'n anabl ac sydd naill ai o dan 16 oed neu sydd (neu oedd) heb gyrraedd y dydd Llun cyntaf ym Medi yn dilyn ei ben-blwydd yn 16 oed?

  • Nodiadau 93 a 93A

    Ydw

    Nac ydw

  • Os ydych wedi ateb “Ydw” naill ai i gwestiwn 3.37 neu 3.37A, ewch at gwestiwn 3.38.

  • Os ydych wedi ateb “Nac ydw” i'r ddau gwestiwn 3.37 a 3.37A, ewch at y Datganiad ar ddiwedd y Rhan hon.”