ATODLEN 2DIWYGIADAU I'R FFURFLEN SY'N DWYN Y TEITL “CEISIADAU PERCHEN-FEDDIANNYDD A THENANT AM GRANTIAU ADNEWYDDU TAI”
1
Yng nghwestiwn 3.9, yn y rhan ynglŷn â lwfans gweithio i'r anabl, yn lle “Lwfans gweithio i'r anabl” rhodder “Credyd treth i berson anabl (a elwid gynt yn lwfans gweithio i'r anabl)” ac, ar ddiwedd y rhan honno, mewnosoder “Nodyn 54A”.
2
Ar ddiwedd cwestiwn 3.23, hepgorer “(os yw'n llai nag 16 awr yr wythnos).”.
3
Yng nghwestiwn 3.29 —
a
yn y rhan ynglŷn â lwfans gweithio i'r anabl, yn lle “Lwfans gweithio i'r anabl” rhodder “Credyd treth i berson anabl (a elwid gynt yn lwfans gweithio i'r anabl)” ac, ar ddiwedd y rhan honno, mewnosoder “Nodyn 54A”;
b
yn y rhan ynglŷn â chredyd teulu, yn lle “Credyd teulu” rhodder “Credyd treth i deuluoedd mewn gwaith (a elwid gynt yn gredyd teulu)” ac, ar ddiwedd y rhan honno, mewnosoder “Nodyn 84B”.
4
Yn lle cwestiwn 3.37, rhodder —
3.37
Ydych chi'n talu, neu ydych chi wedi talu yn ystod y 12 mis diwethaf, am ofal unrhyw blentyn a enwir yng nghwestiwn 3.15 nad yw'n anabl ac sydd naill ai o dan 15 oed neu sydd (neu oedd) heb gyrraedd y dydd Llun cyntaf ym Medi yn dilyn ei ben-blwydd yn 15 oed?
Nodiadau 93 a 93A
Ydw
□
Nac ydw
□
3.37A
Ydych chi'n talu, neu ydych chi wedi talu yn ystod y 12 mis diwethaf, am ofal unrhyw blentyn a enwir yng nghwestiwn 3.15 sy'n anabl ac sydd naill ai o dan 16 oed neu sydd (neu oedd) heb gyrraedd y dydd Llun cyntaf ym Medi yn dilyn ei ben-blwydd yn 16 oed?
Nodiadau 93 a 93A
Ydw
□
Nac ydw
□
Os ydych wedi ateb “Ydw” naill ai i gwestiwn 3.37 neu 3.37A, ewch at gwestiwn 3.38.
Os ydych wedi ateb “Nac ydw” i'r ddau gwestiwn 3.37 a 3.37A, ewch at y Datganiad ar ddiwedd y Rhan hon.
5
Yng nghwestiwn 3.38 —
a
yn lle'r is-baragraff sy'n dechrau gyda'r geiriau “Mae'r gofal yn cael ei ddarparu y tu allan i oriau ysgol”, rhodder —
Mae'r gofal yn cael ei ddarparu y tu allan i oriau ysgol gan ysgol ar safle ysgol neu gan awdurdod lleol, ac mae'r tâl ar gyfer cyfnod sy'n cychwyn ar wythfed penblwydd y plentyn ac yn gorffen mewn achos plentyn nad yw'n anabl ar y dydd cyn y dydd Llun cyntaf ym Medi, yn dilyn penblwydd y plentyn yn 15 oed;
b
ar ôl yr is-baragraff hwnnw, mewnosoder —
Mae'r gofal yn cael ei ddarparu y tu allan i oriau ysgol gan ysgol ar safle'r ysgol neu gan awdurdod lleol, ac mae'r tâl ar gyfer cyfnod sy'n cychwyn ar wythfed penblwydd y plentyn ac yn gorffen mewn achos plentyn sy'n anabl ar y dydd cyn y dydd Llun cyntaf ym Medi, yn dilyn penblwydd y plentyn yn 16 oed;
6
Ar ôl nodyn 54, mewnosoder —
54A
Cynhwyswch unrhyw daliad sy'n unol â dyfarniad lwfans gweithio i'r anabl a ddyfarnwyd gydag effaith o ddyddiad sy'n dod cyn 5 Hydref 1999. O 5 Hydref 1999 ymlaen caiff lwfans gweithio i'r anabl ei adnabod fel credyd treth i berson anabl.
7
Ar ôl nodyn 84A, mewnosoder —
84B
Cynhwyswch unrhyw daliad sy'n unol â dyfarniad o gredyd teulu a ddyfarnwyd gydag effaith o ddyddiad sy'n dod cyn 5 Hydref 1999. O 5 Hydref 1999 ymlaen caiff lwfans credyd teulu ei adnabod fel credyd treth i deuluoedd mewn gwaith.
8
Ar ôl nodyn 93, mewnosoder —
93A
Mae plentyn yn anabl at ddibenion cwestiynau 3.37, 3.37A, 3.38 os yw wedi'i gofrestru'n ddall ar gofrestr a luniwyd o dan adran 29 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (gwasanaethau lles) neu, yn yr Alban, os ardystiwyd ei fod yn ddall ac o ganlyniad i hynny mae wedi'i gofrestru'n ddall ar gofrestr a gynheli neu ar ran awdurdod lleol yn yr Alban neu a beidiodd â chael ei gofrestru'n ddall mewn cofrestr o'r fath o fewn 28 wythnos yn union cyn dyddiad y cais. Mae plentyn yn anabl at ddibenion y cwestiynau hyn hefyd os telir lwfans byw i'r anabl iddo, neu os talwyd lwfans byw i'r anabl iddo hyd nes iddo fynd yn glaf.
9
Yn nodyn 95(1)(a), yn lle “lwfans gweithio i'r anabl” rhodder “credyd treth i berson anabl (a adwaenid gynt yn lwfans gweithio i'r anabl)”.