(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio :
a
y Ffurflen a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion a Ragnodir) 1996, i'w defnydddio gan berchen-feddianwyr a thenantiaid wrth wneud cais am grantiau adnewydddu tai o dan Bennod I o Ran I o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adnewyddu 1996; a
b
y Ffurflen Gymraeg sy'n cyfateb â hi a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflenni a Manylion a Ragnodir) (Ffurflenni a Manylion Cymraeg) 1998.
Mae'r diwygiadau gan fwyaf yn dilyn y rheiny a wneir gan y Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/3468) i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996 (O.S.1996/2890). Mae mân ddiwygiadau a diwygiadau drafftio hefyd.