ATODLEN 2DIWYGIADAU I'R FFURFLEN O'R ENW “CAIS AM GRANT ADLEOLI”

Rheoliad 2

1

Yng nghwestiwn 4.9, yn y rhan sy'n ymwneud â lwfans gweithio i'r anabl, yn lle “Lwfans gweithio i'r anabl” rhodder “Credyd treth i berson anabl (a adwaenid gynt yn lwfans gweithio i'r anabl)” ac ar ddiwedd y rhan honno, mewosoder “Nodyn 14A”.

2

Ar ddiwedd cwestiwn 4.23, hepgorer “(os yw'n llai nag 16 awr yr wythnos)”.

3

Yng nghwestiwn 4.29

a

yn y rhan sy'n ymwneud â lwfans gweithio i'r anabl, yn lle “Lwfans gweithio i'r anabl” rhodder “Credyd treth i berson anabl (a adwaenid gynt yn lwfans gweithio i'r anabl)” ac, ar ddiwedd y rhan honno, mewnosoder “Nodyn 14A”;

b

yn y rhan sy'n ymwneud â chredyd teulu, yn lle “Credyd teulu” rhodder “Credyd treth i deuluoedd mewn gwaith (a adwaenid gynt yn gredyd teulu)” ac, ar ddiwedd y rhan honno, mewnosoder “Nodyn 44B.”.

4

Yn lle cwestiwn 4.37, rhodder —

4.37

Ydych chi'n talu, neu ydych chi wedi talu yn ystod y deuddeng mis diwethaf, am ofal ar gyfer unrhyw blentyn a enwir yng nghwestiwn 4.15 nad yw'n anabl ac sydd naill ai o dan 15 oed neu sydd (neu a oedd) heb gyrraedd y dydd Llun cyntaf ym mis Medi ar ôl ei ben blwydd yn 15 oed?

Nodiadau 53 a 53A

Ydw

Nac ydw

4.37A

Ydych chi'n talu, neu ydych chi wedi talu yn ystod y deuddeng mis diwethaf, am ofal ar gyfer unrhyw blentyn a enwir yng nghwestiwn 4.15 sy'n anabl ac sydd naill ai o dan 16 oed neu sydd (neu a oedd) heb gyrraedd y dydd Llun cyntaf ym mis Medi ar ôl ei ben blwydd yn 16 oed?

  • Nodiadau 53 a 53A

    Ydw

    Nac ydw

  • Os ydych wedi ateb “Ydw” i naill ai cwestiwn 4.37 neu 4.37A, ewch i gwestiwn 4.38.

  • Os ydych chi wedi ateb “Nac ydw” i gwestiynau 4.37 a 4.37A, ewch i Ran 5

5

Yng nghwestiwn 4.38

a

yn lle'r is-baragraff sy'n dechrau â'r geiriau “Darperir y gofal mewn ysgol”, rhodder —

Darperir y gofal y tu allan i oriau ysgol gan ysgol ar dir ac mewn adeiladau ysgol neu gan awdurod lleol, ac mae'r tâl yn ymwneud â chyfnod sy'n dechrau ar ben blwydd y plentyn yn 8 oed ac yn dod i ben, os nad yw'r plentyn yn anabl, ar y diwrnod cyn y dydd LLun cyntaf ym Medi ar ôl ei ben blwydd yn 15 oed;

b

ar ôl yr is-baragraff hwnnw rhodder —

Darperir y gofal y tu allan i oriau ysgol gan ysgol ar dir ac mewn adeiladau ysgol neu gan awdurod lleol, ac mae'r tâl yn ymwneud â chyfnod sy'n dechrau ar ben blwydd y plentyn yn 8 oed ac yn dod i ben, os yw'r plentyn yn anabl, ar y diwrnod cyn y dydd LLun cyntaf ym Medi ar ôl ei ben blwydd yn 16 oed;

6

Ar ôl nodyn 14, mewnosoder —

44B

Cynhwyswch unrhyw daliad sy'n unol â dyfarniad credyd teulu a ddyfarwyd gydag effaith o ddyddiad sy'n dechrau cyn 5 Hydref 1999. O 5 Hydref 1999 ymlaen adwacnir credyd teulu yn gredyd treth i deuluoedd mwen gwaith.

7

Ar ôl nodyn 44A, mewnosoder —

14A

Cynhwyswch unrhyw daliad sydd yn unol â dyfarniad lwfans gweithio i'r anabl a ddyfarwyd gydag effaith o ddyddiad sy'n dod cyn 5 Hydref 1999. O 5 Hydref 1999 ymlaen adwaenir lwfans gweithio i'r anabl yn gredyd treth i berson anabl.

8

Ar ôl nodyn 53, mewnosoder —

53A

Mac plentyn yn ababl at ddibenion cwestiynay 4.37, 4.37A a 4.38 os yw wedi'i gofrestru'n ddall ar gofrestr a luniwyd o dan adran 29 o Deddf Cymorth Gwladol 1948 (gwasanaethau lles) neu, yn yr Alban, a ardystiwyd yn ddall ac o ganlyniad i hynny a gofrestrwyd yn ddall ar gofrestr a gynhelir gan neu ar ran awdurdod lleol yn yr Alban neu a beidiodd â chael ei gofrestru'n ddall mewn cofrestr o'r fath o fewn 28 wynthnos yn union cyn dyddiad y cais. Mae plentyn yn anabl at ddibenion y cwestiynau hyn hefyd os telir lwfans byw i'r anabl iddo, neu os talwyd lwfans byw i'r anabl iddo hyd nes iddo fynd yn glaf.

9

Yn nodyn 55(1)(a), yn lle “lwfans gweithio i'r anabl” rhodder “credyd treth i berson anabl (a adwaenid gynt yn lwfans gweithio i'r anabl)”.