1999 Rhif 3469 (Cy.55)
Rheoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) a (Ffurflen Gais Gymraeg) (Diwygio) (Cymru) 1999
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 132(3) a (4) a 146(1) a (2) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 19961, fel y'i hestynnwyd gan adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 19932 a freiniwyd ynddo bellach3:
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Adeoli (Ffurflen Gais) a (Ffurflen Gais Gymraeg) (Diwygio) (Cymru) 1999 a deuant i rym ar 23 Rhagfyr 1999.
2
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru'n unig.
Diwygio2
1
Diwygiwyd y ffurflen a gyflwynwyd yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) 19974 fel a gyflwynir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.
2
Diwygiwyd y ffurflen a gyflwynwyd yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) (Ffurflen Gais Gymraeg) 19995 fel a gyflwynir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19986
ATODLEN 1DIWYGIADAU I'R FFURFLEN O'R ENW “APPLICATION FOR RELOCATION GRANT”
1
Yng nghwestiwn 4.9, yn y rhan sy'n ymwneud â lwfans gweithio i'r anabl, yn lle “Disability working allowance” rhodder “Disabled person’s tax credit (previously known as disability working allowance)” ac ar ddiwedd y rhan honno, mewnosoder “Note 14A”.
2
Ar ddiwedd cwestiwn 4.23, hepgorer “(if less than 16 hours per week)”.
3
Yng nghwestiwn 4.29 —
a
yn y rhan sy'n ymwneud â lwfans gweithio i'r anabl, yn lle “Disability working allowance” rhodder “Disabled person’s tax credit (previously known as disability working allowance)” ac, ar ddiwedd y rhan honno, mewnosoder “Note 14A”;
b
yn y rhan sy'n ymwneud â chredyd teulu, yn lle “Family credit” rhodder “Working families' tax credit (previously known as family credit)” ac, ar ddiwedd y rhan honno, mewnosoder “Note 44B.”.
4
Yn lle cwestiwn 4.37, rhodder —
4.37
Do you pay, or have you during the last 12 months paid, for the care of any child named in question 4.15 who is not disabled and who is either under the age of 15 years or has (or had) not reached the first Monday in September following his 15th birthday?
Notes 53 & 53A | ||
Yes | □ | |
No | □ |
4.37A
Do you pay, or have you during the last 12 months paid, for the care of any child named in question 4.15 who is disabled and who is either under the age of 16 years or has (or had) not reached the first Monday in September following his 16th birthday?
Notes 53 & 53A
Yes
□
No
□
If you have answered “Yes” to either question 4.37 or 4.37A, please go to question 4.38.
If you have answered “No” to both questions 4.37 and 4.37A, please go to Part 5.
5
Yng nghwestiwn 4.38 —
a
yn lle'r is-baragraff sy'n dechrau â'r geiriau “The care is provided by a school”, rhodder —
The care is provided out of school hours by a school on school premises or by a local authority, and the charge relates to a period beginning on the child’s 8th birthday and ending in the case of a child who is not disbabled on the day before the first Monday in September following his 15th birthday;
b
ar ôl yr is-baragraff hwnnw rhodder —
The care is provided out of school hours by a school on school premises or by a local authority, and the charge relates to a period beginning on the child’s 8th birthday and ending in the case of a child who is disbabled on the day before the first Monday in September following his 16th birthday;
6
Ar ôl nodyn 14, mewnosoder —
14A
Include any payment in accordance with and award of disability working allowance which was awarded with effect from a date falling before 5th October 1999. From 5th October 1999 disability working allowance is to be known as disabled person’s tax credit.
7
Ar ôl nodyn 44A, mewnosoder —
44B
Include any payment in accordance with and award of familt credit which was awarded with effect from a date falling before 5th October 1999. From 5th October 1999 family credit is to be known as working families' tax credit.
8
Ar ôl nodyn 53, mewnosoder —
53A
A child is disabled for the purposes of questions 4.37, 4.37A and 4.38 if he is registered as blind in a register complied under section 29 of the National Assistance Act 1948 (welfare services) or, in Scotland has been certified as blind and in consequence he is registered as blind in a register maintained by or on behalf of a local authority in Scotland, or he ceased to be registered as blind in such a register within the 28 weeks immediately preceding the date of claim. A child is also disabled for the purposes of these questions if he is paid disability living allowance, or he is paid disability living allowance until he became a patient.
9
Yn nodyn 55(1)(a), yn lle “disability working allowance” rhodder “disabled person’s tax credit (previously known as disability working allowance)”.
ATODLEN 2DIWYGIADAU I'R FFURFLEN O'R ENW “CAIS AM GRANT ADLEOLI”
1
Yng nghwestiwn 4.9, yn y rhan sy'n ymwneud â lwfans gweithio i'r anabl, yn lle “Lwfans gweithio i'r anabl” rhodder “Credyd treth i berson anabl (a adwaenid gynt yn lwfans gweithio i'r anabl)” ac ar ddiwedd y rhan honno, mewosoder “Nodyn 14A”.
2
Ar ddiwedd cwestiwn 4.23, hepgorer “(os yw'n llai nag 16 awr yr wythnos)”.
3
Yng nghwestiwn 4.29 —
a
yn y rhan sy'n ymwneud â lwfans gweithio i'r anabl, yn lle “Lwfans gweithio i'r anabl” rhodder “Credyd treth i berson anabl (a adwaenid gynt yn lwfans gweithio i'r anabl)” ac, ar ddiwedd y rhan honno, mewnosoder “Nodyn 14A”;
b
yn y rhan sy'n ymwneud â chredyd teulu, yn lle “Credyd teulu” rhodder “Credyd treth i deuluoedd mewn gwaith (a adwaenid gynt yn gredyd teulu)” ac, ar ddiwedd y rhan honno, mewnosoder “Nodyn 44B.”.
4
Yn lle cwestiwn 4.37, rhodder —
4.37
Ydych chi'n talu, neu ydych chi wedi talu yn ystod y deuddeng mis diwethaf, am ofal ar gyfer unrhyw blentyn a enwir yng nghwestiwn 4.15 nad yw'n anabl ac sydd naill ai o dan 15 oed neu sydd (neu a oedd) heb gyrraedd y dydd Llun cyntaf ym mis Medi ar ôl ei ben blwydd yn 15 oed?
Nodiadau 53 a 53A
Ydw
□
Nac ydw
□
4.37A
Ydych chi'n talu, neu ydych chi wedi talu yn ystod y deuddeng mis diwethaf, am ofal ar gyfer unrhyw blentyn a enwir yng nghwestiwn 4.15 sy'n anabl ac sydd naill ai o dan 16 oed neu sydd (neu a oedd) heb gyrraedd y dydd Llun cyntaf ym mis Medi ar ôl ei ben blwydd yn 16 oed?
Nodiadau 53 a 53A
Ydw
□
Nac ydw
□
Os ydych wedi ateb “Ydw” i naill ai cwestiwn 4.37 neu 4.37A, ewch i gwestiwn 4.38.
Os ydych chi wedi ateb “Nac ydw” i gwestiynau 4.37 a 4.37A, ewch i Ran 5
5
Yng nghwestiwn 4.38 —
a
yn lle'r is-baragraff sy'n dechrau â'r geiriau “Darperir y gofal mewn ysgol”, rhodder —
Darperir y gofal y tu allan i oriau ysgol gan ysgol ar dir ac mewn adeiladau ysgol neu gan awdurod lleol, ac mae'r tâl yn ymwneud â chyfnod sy'n dechrau ar ben blwydd y plentyn yn 8 oed ac yn dod i ben, os nad yw'r plentyn yn anabl, ar y diwrnod cyn y dydd LLun cyntaf ym Medi ar ôl ei ben blwydd yn 15 oed;
b
ar ôl yr is-baragraff hwnnw rhodder —
Darperir y gofal y tu allan i oriau ysgol gan ysgol ar dir ac mewn adeiladau ysgol neu gan awdurod lleol, ac mae'r tâl yn ymwneud â chyfnod sy'n dechrau ar ben blwydd y plentyn yn 8 oed ac yn dod i ben, os yw'r plentyn yn anabl, ar y diwrnod cyn y dydd LLun cyntaf ym Medi ar ôl ei ben blwydd yn 16 oed;
6
Ar ôl nodyn 14, mewnosoder —
44B
Cynhwyswch unrhyw daliad sy'n unol â dyfarniad credyd teulu a ddyfarwyd gydag effaith o ddyddiad sy'n dechrau cyn 5 Hydref 1999. O 5 Hydref 1999 ymlaen adwacnir credyd teulu yn gredyd treth i deuluoedd mwen gwaith.
7
Ar ôl nodyn 44A, mewnosoder —
14A
Cynhwyswch unrhyw daliad sydd yn unol â dyfarniad lwfans gweithio i'r anabl a ddyfarwyd gydag effaith o ddyddiad sy'n dod cyn 5 Hydref 1999. O 5 Hydref 1999 ymlaen adwaenir lwfans gweithio i'r anabl yn gredyd treth i berson anabl.
8
Ar ôl nodyn 53, mewnosoder —
53A
Mac plentyn yn ababl at ddibenion cwestiynay 4.37, 4.37A a 4.38 os yw wedi'i gofrestru'n ddall ar gofrestr a luniwyd o dan adran 29 o Deddf Cymorth Gwladol 1948 (gwasanaethau lles) neu, yn yr Alban, a ardystiwyd yn ddall ac o ganlyniad i hynny a gofrestrwyd yn ddall ar gofrestr a gynhelir gan neu ar ran awdurdod lleol yn yr Alban neu a beidiodd â chael ei gofrestru'n ddall mewn cofrestr o'r fath o fewn 28 wynthnos yn union cyn dyddiad y cais. Mae plentyn yn anabl at ddibenion y cwestiynau hyn hefyd os telir lwfans byw i'r anabl iddo, neu os talwyd lwfans byw i'r anabl iddo hyd nes iddo fynd yn glaf.
9
Yn nodyn 55(1)(a), yn lle “lwfans gweithio i'r anabl” rhodder “credyd treth i berson anabl (a adwaenid gynt yn lwfans gweithio i'r anabl)”.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)