(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996 (“y prif Reoliadau”) sy'n gosod y prawf moddion ar gyfer penderfynu swm y grant adnewyddu a'r grant cyfleusterau i'r anabl y gall awdurdodau tai lleol eu talu i geiswyr sy'n berchen-feddianwyr neu denantiaid o dan Bennod I o Ran I o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adnewyddu 1996.
Mae'r diwygiadau gan mwyaf yn dilyn y diwygiadau i Reoliadau Budd-dâl Tai (Cyffredinol) 1987 (O.S. 1987/1971). Mae mân ddiwygiadau a diwygiadau drafftio hefyd.
Mae Rheoliad 3 yn diffinio credyd treth i deuluoedd mewn gwaith a chredyd treth i berson anabl, sy'n disodli credyd teulu a lwfans gweithio i'r anabl ill dau o 5 Hydref 1999 ymlaen. Cyflwynwyd credyd treth i deuluoedd mewn gwaith a chredyd treth i berson anabl gan Ddeddf Credydau Treth 1999.
Mae Rheoliad 4 yn newid y dull trin taliadau gofal plant perthnasol yn y prawf moddion er mwyn estyn oedrannau perthnasol y plant o ddeuddeg i bymtheg, ac i un ar bymtheg yn achos plant anabl.
Mae Rheoliadau 6 a 7 yn diwygio'r darpariaethau ynglŷn â'r symiau i'w hanwybyddu wrth benderfynu enillion ac incwm arall yn Atodlenni 2 a 3 i'r prif Reoliadau.