(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae adran 9(1) o Ddeddf Lloches a Mewnfudo 1996 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod tai lleol, cyn belled ag y bo'n ymarferol, sicrhau na fydd unrhyw denantiaeth o gartref i bobl fyw ynddo na thrwydded i feddiannu cartref i bobl fyw ynddo a ddarperir o dan Ran II o Ddeddf Tai 1985 (darparu cartrefi i bobl fyw ynddynt), heblaw cartrefi a ddyrennir o dan Ran VI o Ddeddf Tai 1996 (dyrannu cartrefi i bobl fyw ynddynt), yn cael ei rhoi i berson sy'n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo oni fydd y person hwnnw yn perthyn i ddosbarth a bennir mewn gorchymyn a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Mae'r pŵer hwnnw, i'r graddau y mae'n arferadwy yng Nghymru, wedi'i freinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae'r Gorchymyn yn pennu, at ddibenion yr adran honno, geiswyr lloches y mae'n ofynnol i awdurdod lleol roi cymorth iddynt, neu i'w dibynyddion, yn unol â rheoliadau a wnaed o dan Atodlen 9 i Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999.

Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru'n unig.