Search Legislation

Gorchymyn Cartrefi i Bobl Fyw Ynddynt (Personau sy'n Ddarostyngedig i Reolaeth Fewnfudo) (Diwygio) (Cymru) 1999

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

1999 Rhif 3465 (Cy.53)

TAI, CYMRU MEWNFUDO, CYMRU

Gorchymyn Cartrefi i Bobl Fyw Ynddynt (Personau sy'n Ddarostyngedig i Reolaeth Fewnfudo) (Diwygio) (Cymru) 1999

Wedi'i wneud

3 Rhagfyr 1999

Yn dod i rym

6 Rhagfyr 1999

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 9 o Ddeddf Lloches a Mewnfudo 1996(1) a freiniwyd bellach ynddo i'r graddau y mae'n arferadwy yng Nghymru(2):

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cartrefi i Bobl Fyw Ynddynt (Personau sy'n Ddarostyngedig i Reolaeth Fewnfudo) (Diwygio) (Cymru) 1999 a daw i rym ar 6 Rhagfyr 1999.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru'n unig.

Ceiswyr lloches

2.  Yng Ngorchymyn Cartrefi i Bobl Fyw Ynddynt a Digartrefedd (Personau sy'n Ddarostyngedig i Reolaeth Fewnfudo) 1996(3), yn erthygl 3 (dosbarthiadau a bennir o dan adran 9(1)), ar y diwedd, ychwanegir —

  • Class DG – an asylum-seeker to whom, or a dependent of an asylum-seeker to whom, a local authority is required to provide support in accordance with regulations made under Schedule 9 to the Immigration and Asylum Act 1999(4)..

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5).

Jane Davidson

Dirprwy Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

3 Rhagfyr 1999

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae adran 9(1) o Ddeddf Lloches a Mewnfudo 1996 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod tai lleol, cyn belled ag y bo'n ymarferol, sicrhau na fydd unrhyw denantiaeth o gartref i bobl fyw ynddo na thrwydded i feddiannu cartref i bobl fyw ynddo a ddarperir o dan Ran II o Ddeddf Tai 1985 (darparu cartrefi i bobl fyw ynddynt), heblaw cartrefi a ddyrennir o dan Ran VI o Ddeddf Tai 1996 (dyrannu cartrefi i bobl fyw ynddynt), yn cael ei rhoi i berson sy'n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo oni fydd y person hwnnw yn perthyn i ddosbarth a bennir mewn gorchymyn a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Mae'r pŵer hwnnw, i'r graddau y mae'n arferadwy yng Nghymru, wedi'i freinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae'r Gorchymyn yn pennu, at ddibenion yr adran honno, geiswyr lloches y mae'n ofynnol i awdurdod lleol roi cymorth iddynt, neu i'w dibynyddion, yn unol â rheoliadau a wnaed o dan Atodlen 9 i Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999.

Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru'n unig.

(1)

1996 p.49. Diwygiwyd adran 9, i'r graddau y mae'n gymwys i Gymru a Lloegr, gan baragraff 3 o Atodlen 16 i Ddeddf Tai 1996 (p.52), a Rhannau VII a VIII o Atodlen 19 iddi.

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(3)

O.S. 1996/1982; O.S. 1998/139 yw'r offeryn diwygio perthnasol.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources