(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Esgyrn Cig Eidion 1997 (O.S. 1997/2959) i'r graddau eu bod yn gymwys i Gymru.

2

Effaith y diwygiadau yw caniatáu —

a

adwerthu esgyrn cig eidion;

b

gwerthu cig eidion ac esgyrn ynddo, hyd yn oed os yw wedi'i brosesu neu'i drin cyn ei werthu;

c

defnyddio cig eidion ac esgyrn ynddo, esgyrn cig eidion ac (yn ddarostyngedig i amodau) sylweddau sy'n deillio o esgyrn cig eidion wrth gynhyrchu bwyd mewn mannau arlwyo a mannau prydau mynd allan;

ch

(yn ddarostyngedig i amodau) gwerthu unrhyw fwyd sy'n cynnwys cynhwysion sy'n cynnwys esgyrn cig eidion mewn mannau arlwyo a mannau prydau mynd allan ac sy'n cael ei gynhyrchu yno; a

d

(yn ddarostyngedig i amodau) gwerthu unrhyw fwyd sy'n cynnwys cynhwysion sy'n deillio o esgyrn cig eidion yn y mannau hynny ac sy'n cael ei gynhyrchu yno.

3

Nid codi'r gwaharddiad ar ddefnyddio esgyrn at gynhyrchion wedi'u gwneud a'u prosesu yw effaith y Rheoliadau hyn.

4

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud nifer o ddiwygiadau ôl-ddilynol i O.S. 1997/2959 ac yn enwedig maent yn newid y ddarpariaeth bresennol (rheoliad 7) sy'n ymwneud â storio esgyrn. Maent hefyd yn newid y ddarpariaeth bresennol (rheoliad 9) ynglŷn â chadw cofnodion.