1999 Rhif 3464 (Cy.52)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Esgyrn Cig Eidion (Diwygio) (Cymru) 1999

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i Weinidogion y Goron gan adrannau 16(1)(a), (b), (c), (d) ac (f) a (3), 26 a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19901 a pharagraffau 2(1), 3(1), 5(1) a 6(1)(a) o Atodlen 1 iddi, ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru2, wedi ymgynghori yn unol ag adran 48(4) o'r Ddeddf honno â'r sefydliadau hynny sydd yn eu tyb hwy yn cynrychioli buddiannau y mae'n debygol y bydd y Rheoliadau canlynol yn effeithio'n sylweddol arnynt, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol: