Dehongli2

1

Yn y Rheoliadau hyn:

  • Ystyr “A” (“A”) yw'r gwerth ardrethol a ddangosir ar gyfer hereditament ar restr ar 1 Ebrill 2000 neu'r gwerth a ardystir gan y swyddog prisio priodol fel y gwerth ardrethol a fyddai wedi bod yn gymwys i'r hereditament ar 1 Ebrill 2000;

  • mae i “atebolrwydd sylfaenol” (“BL”) >(“base liability”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 5;

  • ystyr “B” (“B”) yw'r lluosydd ardrethu annomestig ar gyfer y flwyddyn berthnasol;

  • mae i “flwyddyn berthnasol” (“relevant year”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 3(2);

  • ystyr “C” (“C”) yw'r gwerth ardrethol ar gyfer yr hereditament a ddangosir ar restr ardrethu ar gyfer y diwrnod perthnasol;

  • mae i “gyfnod perthnasol” (“relevant period”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 3(1);

  • ystyr “y Ddeddf(“the Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988;

  • mae i “ddiwrnod perthnasol” (“relevant day”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 3(3);

  • mae i “hereditament diffiniedig” (“defined hereditament”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 4;

  • mae i “hereditatment y Goron” (“Crown hereditament”) yr un ystyr ag sydd i “Crown hereditament” yn adran 65A (4) o'r Ddeddf 3;

  • mae i “person â buddiant” (“interested person”) yr un ystyr ag sydd i “interested person” yn Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apeliadau) 1993 4

  • mae i “person dynodedig” (“designated person”) yr un ystyr ac sydd iddo yn Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 1999 5;

  • ystyr “rhestr” (“list”) yw'r rhestr ardrethu annomestig leol berthnasol neu restr sy'n cael ei llunio a'i chadw'n unol ag adran 53 o'r Ddeddf;

  • mae i “swm tybiannol y gellir ei godi”(“NCA”) >(“notional chargeable amount”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 6;

  • ystyr “swyddog prisio priodol” (“appropriate valuation officer”)

    1. a

      mewn perthynas â hereditament y mae rheoliadau o dan adran 53(1) o'r Ddeddf (cynnwys y rhestri canolog) mewn grym ynglŷn ag ef, yw'r swyddog prisio canolog;

    2. b

      mewn perthynas â hereditament nad oes unrhyw reoliadau o'r fath mewn grym ynglŷn ag ef, yw'r swyddog prisio sy'n cadw'r rhestr y mae'r hereditament wedi'i ddangos arni (neu y byddai'n cael ei ddangos arni, yn ôl yr hyn a fynnir gan y cyd-destun);

    • mae i “tribiwnlys prisio perthnasol” (“relevant valuation tribunal”) yr un ystyr ag sydd i “relevant valuation tribunal” yn Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apeliadau) 1993;

2

O ran person dynodedig, mae cyfeiriadau at hereditament person dynodedig yn gyfeiriadau at unrhyw hereditament neu, fel y bo'r achos, yn gyfeiriadau at ddisgrifiad neu ddosbarth o hereditamentau, a ragnodir mewn perthynas â'r person dynodedig hwnnw.