Apelau yn erbyn ardystiad12
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (5), pan fydd person sydd â buddiant mewn perthynas â hereditament y mae ei werth wedi'i ardystio gan swyddog prisio priodol (at ddiben A yn rheoliad 2(1)) yn anfodlon ar y gwerth a ardystiwyd felly, caiff apelio yn erbyn yr ardystiad yn unol â'r rheoliad hwn.
2
Rhaid cychwyn apêl o dan baragraff (1) drwy gyflwyno, cyn 1 Ebrill 2001, hysbysiad i'r swyddog prisio yn datgan rhesymau'r apelydd dros fod yn anfodlon.
3
Oni fydd y naill neu'r llall o'r canlynol yn digwydd o fewn pedair wythnos o ddyddiad cyflwyno'r hysbysiad o resymau'r apelydd o dan baragraff (2), sef
a
bod yr hysbysiad wedi'i dynnu'n ôl, neu
b
body swyddog prisio priodol a'r apelydd yn cytuno'n ysgrifenedig ynglŷn â'r gwerth y dylid ei ardystio, rhaid cyfeirio'r anghytundeb ar ddiwedd y cyfnod hwnnw gan y swyddog hwnnw i'r tribiwnlys prisio perthnasol fel apêl yn erbyn yr ardystiad hwnnw.
4
Mae rhan VI o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apelau) 1993) yn gymwys i apêl o dan y rheoliad hwn.
5
Ni chaniateir i unrhyw apêl gael ei wneud yn erbyn ardystiad a roddwyd gan swyddog prisio priodol yn unol â rheoliad 4.